Ysgol Clocaenog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ysgol naturiol Gymraeg ym mhentref Clocaenog ydy Ysgol Clocaenog, sy'n gwasanaethu pentrefi Clocaenog, Clawddnewydd, Derwen a'r ardaloedd cyfagos. Y Pennaeth yn Nhachwedd 2012 oedd Miss Einir Wynne Jones.

Yn Nhachwedd 2012 roedd 36 o blant yn yr ysgol, sef y nifer mwyaf y gall ei dderbyn - dim lle gwag. Er hyn, cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych eu bwriad i aildrefnu addysg yn y cylch.[1]

Arwyddair yr ysgol yw: Helpu ein gilydd a gwneud ein gorau glas pob amser. Mae'r ysgol yn nhalgylch Ysgol Brynhyfryd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Denbighshire Free Press; cyhoeddwyd 21 Tachwedd 2012

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Apple-book.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
CymruDinbych.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato