Ysgol gynradd

Oddi ar Wicipedia
Ysgol gynradd yn Český Těšín, Gweriniaeth Tsiec.

Sefydliad lle mae plant yn derbyn rhan gyntaf eu haddysg orfodol, a adnabyddir fel addysg gynradd, yw ysgol gynradd. 'Ysgol gynradd' yw'r term a ddefnyddir yng ngwledydd Prydain a nifer o wledydd y Gymanwlad, ac yn y rhan fwyaf o gyhoeddiadau UNESCO.[1] Defnyddir y term ysgol elfennol yn hytrach nag ysgol gynradd mewn nifer o wledydd, yn arbennig gwledydd Gogledd America. Mae plant yn mynychu ysgol gynradd o bedwar i bump oed hyd at unarddeg i ddeuddeg oed yn gyffredinol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Primary school. Encyclopædia Britannica Online.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato