Ysgol (addysg)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Am defnydd arall o'r gair "ysgol", gweler Ysgol (gwahaniaethu)

Disgyblion uwchradd mewn gwisg ysgol a chotiau glaw yn Swydd Stafford, Lloegr.

Lle a ddynodir ar gyfer addysgu yw ysgol. Fel arfer y mae'n sefydliad (ac yn adeilad) lle mae disgyblion neu fyfyrwyr, sydd fel arfer yn blant neu yn bobl ifainc, yn dysgu drwy law athrawon. Lle canolog y dysgu fel arfer yw'r ystafell ddosbarth, ond dim o angenrheidrwydd bob amser. Gall y dysgu fod mewn labordy er engraifft, neu hyd yn oed yn yr awyr agored.

Mae'r math o sefydliad a ddisgrifir fel ysgol yn amrywio o wlad i wlad.

Gelwir yr hyn sy'n cael ei addysgu yn yr ysgol yn gwricwlwm a cheir Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n nodi'n statudol yr hyn sy'n ofynol i ddisgybl ei ddysgu.

Cymru[golygu]

Yng Nghymru ceir addysg mewn ysgolion cynradd i blant unarddeg oed ac iau ac ysgolion uwchradd o unarddeg tan ddeunaw oed mewn os oes chweched dosbarth, ac o unarddeg tan 16 oed os nad oes gandddynt chweched dosbarth. Lle nad oes chweched dosbarth bydd y plant sydd am ddilyn addysg uwch yn mynychu Coleg Trydyddol.

Gelwir ysgolion cynradd sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgolion Cymraeg a'r ysglion uwchradd sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn neu Ysgol ddwyieithog neu'n Ysgol Naturiol Gymraeg fel a geir yng Ngwynedd.

Cafwyd cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru ym Medi 2008, wedi'i osod gan y Cynulliad Cenedlaethol.[1] Mae’r cwricwlwm hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • y Cyfnod Sylfaen;
  • datblygu sgiliau;
  • y cwricwlwm cenedlaethol;
  • addysg bersonol a chymdeithasol;
  • addysg rhyw;
  • gyrfaoedd a’r byd gwaith;
  • addysg grefyddol.

Cyfeiriadau[golygu]

Gweler hefyd[golygu]


Nuvola apps bookcase.svg Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato