Hugh Owen (addysgwr)
Hugh Owen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 14 Ionawr 1804 ![]() Llangeinwen ![]() |
Bu farw | 20 Tachwedd 1881 ![]() Menton ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | addysgwr ![]() |
Cysylltir gyda | Athrolys, Prifysgol Aberystwyth ![]() |
Tad | Owen Owen ![]() |
Mam | Mary Jones ![]() |
Priod | Ann Wade ![]() |
Plant | Mima Owen, Hugh Owen ![]() |
Gwobr/au | marchog ![]() |
Addysgwr o Gymru a gafodd ddylanwad mawr ar ddatblygiad y system addysg yng Nghymru oedd Syr Hugh Owen (14 Ionawr 1804 – 20 Tachwedd 1881). Roedd yn frodor o Langeinwen, Ynys Môn.
Ei fywyd[golygu | golygu cod]
Dyngarwr Methodistaidd oedd ef. Roedd yn un o hybwyr cyntaf Coleg y Normal, Bangor rhwng 1855 ac 1858 a llwyddodd gyda chriw bychan sefydlu Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth yn 1872. Cymerodd ran amlwg yng ngwaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru hefyd. Ond ei brif waith oedd sefydlu ysgolion canolraddol yng Nghymru. Claddwyd ef ym Mynwent Abney Park yn Stoke Newington, Llundain. Cafodd ei urddo'n farchog yn Awst 1881.
Beirniadaeth[golygu | golygu cod]
Mae gwaith Hugh Owen fel addysgwr wedi ei feirniadu'n hallt gan rai haneswyr modern.[angen ffynhonnell] Ar sawl ystyr, roedd yn ŵr nodweddiadol o'r dosbarth canol Seisnig Fictoraidd yng Nghymru. Fe'i beirniadir am ei fethiant i greu cyfundrefn addysg a fyddai'n fwy addas i Gymru fel gwlad ac am esgeuluso i raddau helaeth le'r iaith Gymraeg yn y gyfundrefn honno. Er ei fod yn Gymro Cymraeg, peth eilradd yn ei flaenoriaethau fu'r iaith yn ei gynlluniau addysg a bu rhaid aros am flynyddoedd i wneud yn iawn am hynny. Erbyn i hynny ddigwydd ac i'r iaith ddechrau ennill ei lle yn ysgolion Cymru roedd nifer ei siaradwyr wedi gostwng yn sylweddol a beirniadir Owen am fod yn rhannol gyfrifol am hynny trwy greu system addysg a Seisnigeiddiodd genhedlaethau o Gymry ifainc.
Y cof amdano[golygu | golygu cod]
Enwyd llyfrgell Prifysgol Aberystwyth ac Ysgol Syr Hugh Owen ar ei ôl.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- W. E. Davies, Cofiant Syr Hugh Owen (1885)
- B. L. Davies, Syr Hugh Owen (Caerdydd, 1977)