Edward Charles (Siamas Gwynedd)

Oddi ar Wicipedia
Edward Charles
FfugenwSiamas Gwynedd Edit this on Wikidata
Ganwyd1757 Edit this on Wikidata
Clocaenog Edit this on Wikidata
Bu farw1828 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ysgrifennwr epistolaidd ar bynciau gwleidyddol a chrefyddol a chopïydd llawysgrifau Cymreig ar ddiwedd y 18g a chwarter cyntaf y ganrif olynol oedd Edward Charles (Siamas Gwynedd) (17571828). Bu'n fyw yng nghanol bwrlwm cymdeithas Gymreig Llundain yng nghyfnod y Chwyldro Ffrengig a dechrau'r 19g.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Edward Charles yng Nghlocaenog, Sir Ddinbych, yn 1757. Symudodd i fyw a gweithio yn Llundain lle ymunodd â'r Gwyneddigion, cymdeithas o Gymry gwlatgar radicalaidd yn y ddinas honno. Daeth i adnabod rhai o Gymry blaengar y dydd, yn cynnwys Jac Glan y Gors ac Owain Myfyr. Cynorthwyodd y Myfyr drwy gopïo nifer o lawysgrifau Cymraeg ar gyfer y Myvyrian Archaiology of Wales. Mae ei lythyrau a dogfennau yn ffynhonnell bwysig i haneswyr am fywyd Cymry Llundain yn y cyfnod hwnnw.

Roedd yn llenor dadleugar a gododd wrychyn sawl person. Fel nifer o'i gydwladwyr yn y Gwyneddigion a cymdeithasau Cymreig eraill, roedd yn ffafriol tuag at y Chwyldro Ffrengig i ddechrau ond cafodd ei ddychryn gan y tro gwaedlyd ac anarchaidd a gymerodd digwyddiadau yn Ffrainc. Yn 1796, ymosododd yn chwyrn ar ei gyfaill Jac Glan y Gors am gefnogi'r Chwyldro Ffrengig yn ei lyfr Seren Tan Gwmwl. Ni allai oddef Methodistiaeth chwaith, a fflangellodd y mudiad yn ffyrnig yn ei lyfr Epistolau Cymraeg at y Cymry (1797). Cafwyd ymosodiad cyffelyb ganddo yn Cylch-grawn Cynmraeg Morgan John Rhys hefyd.