Morgan John Rhys
| Morgan John Rhys | |
|---|---|
| Ganwyd | 1760, 8 Rhagfyr 1760 Llanbradach |
| Bu farw | 1804, 7 Rhagfyr 1804, 7 Gorffennaf 1804 Somerset |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | newyddiadurwr, gweinidog yr Efengyl, cyhoeddwr |
| Plant | Elizabeth Jones Murray |

Gweinidog gyda'r Bedyddwyr oedd Morgan John Rhys, neu Rhees (8 Rhagfyr 1760 – 7 Rhagfyr 1804). Roedd hefyd yn bropagandydd enwog dros ryddid, gan groesawu'r Chwyldro Ffrengig, ac yr oedd yn pregethu yn erbyn caethwasiaeth. Cafodd ei eni yn Llanbradach, Caerffili.
Yn 1794 ymfudodd i America wedi cael ei siomi gan yr ymateb i radicaliaeth Prydain. Roedd mewn perygl o gael ei arestio am ei feirniadaeth ar y llywodraeth yn ei erthyglau yn Y Cylchgrawn Cynmraeg [sic], y cyfnodolyn a ddechreuodd yn Nhrefeca yn yr un flwyddyn.
Yn America bu'n gyfrifol am brynu tir a sefydlu gwladfa Gymreig yng ngorllewin Pennsylvania. Rhoddodd yr enw 'Cambria' ar y wladfa newydd a'i brif dref oedd Beulah. Cyhoeddodd bapur newydd yno, The Western Sky. Cychwynnodd enwad newydd, Eglwys Crist, a cheisiai genhadu i'r brodorion Americanaidd.
Credai y dylid creu sir newydd ym Mhennsylvania o'r enw Cambria, ac mai ei dref ef, Beula, a ddylai fod yn ganolfan weinyddol i'r sir. Pan grewyd Cambria County gan lywodraeth talaith Pennsylvania yn 1804, collodd Beula y bleidlais i ddod yn brif ganolfan weinyddol o un pleidlais, yn lle hynny, daeth tref gyfagos Ebensburg - a oedd yn wreiddiol yn rhan o Beula - yr anrhydedd honno. Bu farw Rhys bythefnos ar ôl i'r rheithfarn gael ei rhyddhau.[1]
Ar ei daith drwy America, cadwodd ddyddiadur a ystyrir heddiw'n gofnod hanesyddol pwysig. Sgwennod ar 4 Mai 1795, "Gwell gen i fyw gyda'r Indiaid na chyda perchnogion caethweision."[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- J. J. Evans, Morgan John Rhys a'i Amserau (1935)
- Gwyn Alf Williams, The Search for Beulah Land (1980)
- E. Wyn James,"'Seren Wib Olau': Gweledigaeth a Chenhadaeth Morgan John Rhys (1760-1804)", Trafodion Cymdeithas Hanes y Bedyddwyr (2007), tt.5-37
- E. Wyn James, "Morgan John Rhys a Chaethwasiaeth Americanaidd", yn Canu Caeth: Y Cymry a’r Affro-Americaniaid, gol. Daniel G. Williams (Llandysul: Gwasg Gomer, 2010), tt.2-25
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gagermeier, Joseph (2021). A Civilized Mountain: The Story of Ebensburg. Kindle Direct Publishing.
- ↑ williamheathbooks.com; dyfyniad priodol: I had rather live with Indians than slave holders. Adalwyd 7 Rhagfyr 2025.