Glyndyfrdwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Glyndyfrdwy
Glyndyfrdwy railway station in 2007.jpg
Yr orsaf reilffordd leol
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9754°N 3.2679°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ149427 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auKen Skates (Llafur)
AS/auSimon Baynes (Ceidwadwyr)

Pentref yn Sir Ddinbych yw Glyndyfrdwy("Cymorth – Sain" ynganiad ); yn flaenorol yn yr hen Sir Feirionnydd. Yr hen enw arno oedd Llansantffraid Glyn Dyfrdwy[1]. Saif ar y briffordd A5, hanner ffordd rhwng Corwen a Llangollen, ger Afon Dyfrdwy.

Mae'r pentref yn enwog am ei gysylltiad ag Owain Glyn Dŵr, Arglwydd Glyndyfrdwy. Yn ei blastŷ yma y cyhoeddodd Owain ei hun yn Dywysog Cymru ar 16 Medi 1400. Dinistriwyd y tŷ gan fyddin Seisnig dan y tywysog Harri, yn ddiweddarach Harri V yn 1403, a dim ond olion y mwnt a'r sylfeini sydd i'w gweld heddiw. Gerllaw mae olion castell mwnt a beili o'r 12g.

Glyndyfrdwy o'r bryniau
Gweddillion mwnt a beili Owain Glyn Dŵr rhwng pentref Llidiart y Parc a Glyndyfrdwy

Yn Neuadd Goffa Owain Glyn Dŵr, gellir gweld copi o Lythyr Pennal a llythyr yn cadarnhau apwyntiad Canghellor Owain, Gruffydd Yonge, a brawd-yng-nghyfraith Owain, John Hanmer, fel llysgenhadon i frenin Ffrainc.

Crewyd plwyf Glyndyfrdwy yn 1866; cyn hynny roedd yn rhan o blwyf Corwen. Agorwyd gorsaf reilffordd yma yn 1866. Caewyd hi yn y 1960au, ond ail-agorwyd hi fel gorsaf ar Reilffordd Llangollen yn 1992.

Roedd R. J. Berwyn, un o arloeswyr Y Wladfa, yn enedigol o Lynceiriog.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[2][3]

Yr Eglwys[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladwyd yr eglwys plwyf y bresenol yn nechrau'r 17g, gan i orlifiad y Ddyfrdwy ysgubo'r adeilad blaenorol. Ceir y penill canlynol ar lafar gwlad:

Dyfrdwy, Dyfrdwy fawr ei naid,
Aeth ag Eglwys Llansantffraid,
Y llyfrau bendigedig,
A'r gwpan arian hefyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]