Eryrys
![]() | |
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.11°N 3.19°W ![]() |
Cod OS |
SJ203578 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Ken Skates (Llafur) |
AS/au | Simon Baynes (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref a phlwyf yn Sir Ddinbych yw Eryrys( ynganiad ). Saif bum milltir i'r de o dref yr Wyddgrug ac ychydig i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanarmon-yn-Iâl ar fryn carreg galch Bryn Alyn (Cyfeirinod grid OS: SJ203578). Mae'r pentref 350m uwch lefel y môr, ac yn un o'r cystadleuwyr am y teitl o fod yn bentref uchaf Cymru, sef 1,123 troedfedd.[1] Y ddau arall yw: Bwlchgwyn, Wrecsam (335m) a Garn-yr-Erw, Torfaen (390m).[2] Saif ar ffin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.[3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[4][5]
Eglwys Dewi Sant[golygu | golygu cod y dudalen]
Canwyd cloch yr eglwys y tro diwethaf yn y 1970au pan drodd yn ganolfan gymdeithasol i'r pentref. Mae'r adeilad yn Radd II a rhoddwyd hi ar y gofrestr ar 29 Mai 1998 (Rhif Cofrest Cadw: 19921).
Crëwyd plwyf Eryrys yn 1861; cyn hynny roedd yr ardal yn rhan o blwyf Llanarmon-yn-Iâl. Dechreuwyd adeiladu'r eglwys a gysegrwyd i Ddewi Sant yn 1862.
Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir damcaniaeth fod yr enw'n deillio o "Erw Yrys" a gysylltir gydag "Hen Gyrys o Iâl" awdur casgliad o ddiharebion.
Diwydiant[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir sawl chwarel calchfaen yn agos i'r pentref a sawl ogof bwysig o gyfnod y cynfyd. Mae'r rhan fwyaf o'r chwareli wedi hen gau, ond mae un neu ddwy wedi allgyfeirio i ddeilio gyda sment.[6] Caewyd y rhan fwyaf o'r chwareli plwm yn y 19g. Tir pori ydy'r rhan fwyaf o'r tir o amgylch y pentref, defaid a gwartheg.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan Saesneg y BBC; adalwyd 19/07/2012
- ↑ Ordnance Survey. "MapZone". Cyrchwyd 2007-03-04.
- ↑ Clwydian Range AONB; adalwyd 19 Medi 2014
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan CPAT; adalwyd 19 Medi 2014
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prestatyn · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion