Gallt Melyd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cyfesurynnau: 53°19′N 3°25′W / 53.317°N 3.417°W / 53.317; -3.417

Eglwys Sant Melyd yng nghanol pentref Gallt Melyd.

Pentref yng ngogledd Sir Ddinbych rhwng Prestatyn a Diserth yw Gallt Melyd("Cymorth – Sain" ynganiad ) (weithiau Allt Melyd; Saesneg: Meliden).

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Tyst i bresenoldeb pobl yn yr ardal yn Oes yr Efydd neu ddiwedd Oes Newydd y Cerrig yw Crug Tŷ Draw, sy'n un o dros 400 o grugiau crwn yng Nghymru.

Tyfodd y pentref wrth i fwyngloddiau plwm a chwareli calchfaen yr ardal agor ar ddiwedd y 18g ac i mewn i'r ganrif olynnol. Enwir y pentref ar ôl Sant Melyd, ac mae'r eglwys yn gysegredig iddo.

Addysg a hamdden[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r hen reilffordd rhwng Prestatyn a Diserth yn rhan o Llwybr y Gogledd (Prestatyn - Bangor) erbyn heddiw. Mae gan y pentref gwrs golff naw twll.

Ysgol Gynradd Sant Melyd yw'r ysgol leol.

Eglwys Sant Melyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghanol y pentref saif Eglwys Sant Melyd a chyfeirir at ei bodolaeth yn 1086 yn Llyfr Dydd y Farn - o bosib allan o bren. Mae'r adeilad presennol wedi'i chodi dros sawl canrif, gyda rhannau gorllewinol ohoni'n dyddio'n ôl i'r 1200au cynnar. Mae'r fynwent a'r lleoliad, fodd bynnag, yn llawer hŷn; gan ei bod yn gron, gwyddom ei bod yn fan addoli yng nghyfnod y Celtiaid.[1] Mae waliau'r rhan yma sy'n perthyn i'r Oesoedd Canol yn llawer mwy trwchus na'r gweddill, gan fod eu pwrpas yn amddiffynol-filwrol. Yn y wal hon ceir ffenest rosyn gyda darlun o Grist y Brenin ynddi. Arferai'r ffenest hon oleu'r galeri yng nghefn yr egwys, ond mae honno wedi'i thynu i lawr ers tro.

Ceir yma fedyddfaen sydd wedi'i dyddio'n ôl i 1175.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Nodiadau o daflen gan yr Eglwys yng Nghymru
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: