Llwybr y Gogledd
Math | ffordd |
---|---|
Cysylltir gyda | Llwybr Clawdd Offa, Llwybr Arfordir Cymru |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Mae Llwybr y Gogledd yn lwybr pellter hir o tua 60 milltir sy'n rhedeg rhwng Prestatyn yn y dwyrain a Bangor yn y gorllewin. Mae'n cyd-fynd yn rhannol a Llwybr Arfordir Cymru ond wedi ei sefydlu cyn y llwybr cenedlaethol, ac mae'r llwybr hwn yn gwyro oddi ar yr arfordir i ymweld â rhannau mewndirol.
Does dim rhaid cerdded y llwybr cyfan ac mae nifer o bobl yn dewis cerdded rhannau unigol ohono. Mae'r rhannau mwyaf poblogaidd yn cynnwys y llwybr rhwng Prestatyn a Diserth, ar hyd hen drac rheilffordd, Pen y Gogarth a Rhiwledyn ger Llandudno, Mynydd y Dref a'i hen fryngaer Caer Seion rhwng Conwy a Bwlch Sychnant, ucheldiroedd Penmaenmawr, a Rhaeadr Abergwyngregyn.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Ger y Moelfre rhwng Penmaenmawr a Llanfairfechan.
-
Ger Llandrillo-yn-Rhos.
-
Logo swyddogol]]
Llwybrau lleol
[golygu | golygu cod]Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft:
- Taith Bryn Euryn. Saif y bryncyn calchfaen hwn (Bryn Euryn) fymryn i'r gorllewin o Landrillo-yn-Rhos, tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin o Fae Colwyn; cyfeiriad grid SH832798. Mae'n fryn 131 medr o uchder a goronir gan fryngaer. Mae rhan ohono'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.[1] Mae cerddwyr ar y daith hon yn pasio Llys Euryn, safle llys canoloesol a fu'n perthyn i ystad Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr.[1] Caiff y llwybr a'r bryn eu rheoli a'u cadw gan Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Conwy.[1] Ceir dau lwybr: y naill yn cylchdroi'r copa (1 filltir o hyd) a'r llall o fewn y goedwig (1.5 filltir). Mae 26 math gwahanol o löyn byw wedi'u cofnodi ar fryn Euryn.
- Taith Caerhun. Cychwyn y daith hawdd hon ydy Tal-y-Cafn, ar lannau Afon Conwy. Saif gweddillion Canovium ar y ffordd Rufeinig rhwng Deva (Caer) a Segontium (Caernarfon) ac mae defnyddiwr y llwybr yn ei basio o fewn tafliad carreg. Eir trwy Pontwgan a phentref Tyn-y-Groes ac mae'r olygfa'n cynnwys ysblander Dyffryn Conwy ac Eryri yn y pellter. Tair milltir yw ei hyd gydag estyniad 1.5 milltir i'r cerddwr diflino. Cychwyn y daith yw Tal-y-Cafn (SH788717).
- Taith i Ben y Gogarth. Ceir 3 taith o Landudno i gopa Pen y Gogarth ac mae pob un wedi'u harwyddo'n glir. Ar y daith gellir gweld y dref, y bae, y Fenai ac Eryri. Mae'r dair yn cynnwys rhannau eithaf serth. Mae "Llwybr Gerddi Heulfre" (1 filltir) yn cymryd tuag awr i'w cherdded. Yr un hyd yw'r "Llwybr Igam Ogam", eithr ei bod yn cymryd hanner awr yn hwy. 1.5 milltir yw hyd "Llwybr y Dyffryn" ac fe gymrith tua'r un hyd - awr a hanner.[2]
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]Manylion Llwybr y Gogledd a Llwybr Arfordir Cymru, yn cynnwys mapiau o'r ddau
Cyfeiriadu
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Conwy County Council official website - Gwarchodfa natur leol BRYN EURYN local nature reserve Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 12 Awst 2013
- ↑ Gwefan Cyngor Sir Conwy - Llwybrau Copa'r Gogarth Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 12 Awst 2013