Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm

Oddi ar Wicipedia
Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm
Mathsafle archaeolegol, ffordd Rufeinig, adeilad Rhufeinig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.217°N 3.836°W Edit this on Wikidata
Map

Mae ffordd Rufeinig Caer - Segontiwm yn rhedeg rhwng hen gaer Rufeinig Deva (Caer heddiw) a Segontiwm (tu allan i Gaernarfon) ar draws gogledd Cymru. Am ran gyntaf ei chwrs, o Gaer hyd Afon Clwyd, mae'r A55 bresennol yn dilyn llwybr yr hen ffordd Rufeinig.

Mae union ddyddiad adeiladu'r ffordd yn anhysbys, ond mae'n debyg i'r gwaith cyntaf gael ei wneud tua diwedd y ganrif gyntaf OC ac iddi gael ei gwblhau yn hanner cyntaf y ganrif nesaf.

Rhan o'r ffordd Rufeinig rhwng Caer a Segontiwm lle mae'n dringo o Gaerhun i gyfeiriad Bwlch-y-Ddeufaen ar ei ffordd i Segontiwm
Carreg filltir Rufeinig (copi ar y safle gwreiddiol) ger Llanfairfechan.

O Deva mae'r ffordd yn rhedeg ar gwrs gogledd-orllewinol i gyffiniau Dinas Basing, ar Lannau Dyfrdwy, ar ôl croesi Afon Dyfrdwy ei hun ger y bont bresennol tu allan i Gaer. Cafwyd hyd i olion Rhufeinig ger y ffordd ym Mhentre (Sir Fflint). O Ddinas Basing try i'r gorllewin ac mae'n parhau felly hyd Segontiwm. Ger Llanelwy mae'n croesi Afon Elwy ac Afon Clwyd ar ôl bylchu Bryniau Clwyd ger Rhuallt (mae'r A55 yn dilyn yr un cwrs yn union). Credir y lleolwyd caer Rufeinig Varis yn Llanelwy, ond hyd yn hyn mae ei lleoliad yn ansicr.

O Ddyffryn Clwyd mae'r ffordd yn codi ac yn croesi'r bryniau isel tua deg milltir o'r arfordir, gan osgoi tir corsiog a choed yr iseldiroedd. Mae'n cyrraedd Dyffryn Conwy ger Eglwysbach. Sefydlwyd fferi yn Nhal-y-Cafn i groesi Afon Conwy a chodwyd caer bwysig yng Nghaerhun, yr ochr arall i'r afon.

O Gaerhun mae'r ffordd yn codi ac yn ymuno â llwybr cynhanesyddol, heibio i gromlechi megis Maen y Bardd a meini hirion hynafol i gyrraedd Bwlch-y-Ddeufaen. (Y bwlch hwnnw oedd y ffordd hawsaf i groesi cadwyn y Carneddau hyd yn gymharol ddiweddar). O'r bwlch mae'n disgyn heibio i lethrau Foel Ganol a'i hen gaer Geltaidd ac i lawr y llethrau trwy'r Rhiwiau Uchaf ac Isaf rhwng Llanfairfechan ac Abergwyngregyn. Ger y Rhiwiau Uchaf cafwyd hyd i hen garreg filltir Rufeinig sydd yn Amgueddfa Segontiwm bellach; mae'n dwyn enw yr ymerodr Traianus Decius ac felly i'w dyddio i 249 - 251 O.C.

Ger Abergwyngregyn mae'r ffordd yn cyrraedd yr arfordir ac yn rhedeg yn bur agos iddo yr holl ffordd i Segontiwm.