Caerhun
Math | cymuned, pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.217°N 3.836°W ![]() |
Cod SYG | W04000110 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref bychan a chymuned yn Sir Conwy yw Caerhun, sy'n adnabyddus am safle caer Rufeinig Canovium. Er nad yw'r pentref ei hun yn fawr, mae'r gymuned yn ymestyn o lan Afon Conwy hyd at brif grib y Carneddau yn Eryri ac yn cynnwys sawl mynydd a heneb. Yn 2011 roedd 1,292 o bobl yn byw yn y gymuned (gweler isod).
Hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir sawl heneb a safle hanesyddol yng nghymuned Caerhun, yn cynnwys:
- Aneddiadau hynafol Cwm Eigiau
- Barclodiad y Gawres. Carnedd gron.
- Bwlch y Ddeufaen. Meini hynafol.
- Canovium. Caer Rufeinig
- Carnedd Afon Dulyn. Carnedd cynhanesyddol.
- Cerrig Pryfaid. Cylch cerrig.
- Eglwys y Santes Fair. Eglwys y plwyf. Saif ger Afon Conwy ar godiad tir yng nghornel y gaer Rufeinig. Mae'n dyddio o'r 13g.
- Maen y Bardd. Cromlech.
- Pen-y-gaer. Bryngaer.
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan