Llysfaen
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,743, 2,736 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 566.82 ha |
Cyfesurynnau | 53.283°N 3.666°W |
Cod SYG | W04000132 |
Cod OS | SH887771 |
Cod post | LL29 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Gill German (Llafur) |
- Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at bentref ar arfordir gogledd Cymru; am yr ardal ag enw tebyg yng Nghaerdydd, gweler Llys-faen.
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Conwy, Cymru, yw Llysfaen.[1][2] Saif ar arfordir gogledd y sir, hanner milltir o'r môr tua hanner ffordd rhwng Abergele i'r dwyrain a Bae Colwyn i'r gorllewin. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Hen Golwyn, Llanddulas, Dolwen a Betws-yn-Rhos. I'r dwyrain ceir Mynydd Marian. Mae tua 2,680 o bobl yn byw yno ([1] Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback 2005). Mae'r gymuned yn cynnwys stad Peulwys.
Heddiw mae'r pentref yn rhan o sir Conwy, ond hyd 1923 bu'n alldir o'r hen Sir Gaernarfon wedi ei amgylchu'n gyfangwbl gan yr hen Sir Ddinbych; bu'n rhan o sir Clwyd o 1974 hyd 1996. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gantref Rhos. Mae eglwys Sant Cynfran yn dyddio i'r Oesoedd Canol; yn ôl traddodiad lleol fe'i sefydlwyd gan y sant yn y flwyddyn 777.
Am gyfnod hir bu llawer o bobl y pentref yn gweithio yn chwareli calchfaen cyfagos Llysfaen a Llanddulas. Cludai llongau arfordirol y calchfaen i Lerpwl neu Fleetwood o Sieti Rayne ym Mae Llanddulas.
Ceir ysgol gynradd leol, Ysgol Cynfran, siop SPAR, neuad y pentref, a thri pharc.
Eglwys Sant Cynfran
[golygu | golygu cod]Dywedir i'r eglwys gael ei sefydlu gan Sant Cynfran yn 777. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o 1377 ond mae'n cynnwys meini o'r eglwys gynharach. Yn 1870 cafodd yr eglwys ei adnewyddu'n sylweddol ar gost o £1,950 a chollwyd nifer o baneli pren canoloesol. Mae rhai o'r cofebion yn yr eglwys yn dyddio i'r 17g. Amgylchynir y llan gan wal cerrig a cheir Ffynnon Gynfran tua 100 medr i'r gogledd o'r eglwys.
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 2,736.[3]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
- ↑ City Population; adalwyd 25 Mawrth 2024
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Bythynnod yn Llysfaen
-
Eglwys Cynfran Sant, Llysfaen
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) GENUKI Archifwyd 2007-09-30 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Ymddiredolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys: Eglwys St. Cynfran, Llysfaen Archifwyd 2008-02-26 yn y Peiriant Wayback
- Clwyd Family History Society: lluniau o'r eglwys Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan