Bae Cinmel
![]() | |
Math |
pentref, ward ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Bae Cinmel a Thywyn ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.31°N 3.52°W ![]() |
Cod SYG |
W05000129, W38000010 ![]() |
Cod OS |
SH988803 ![]() |
Cod post |
LL18 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |

Pentref ar arfordir Sir Conwy a chanolfan gwyliau yw Bae Cinmel, yr ochr arall i'r Foryd o'r Rhyl, rhwng y dref honno a Phensarn ac Abergele. Hanner milltir i'r de mae pentref Tywyn ('Towyn' yn Saesneg). Mae'r traeth yn llydan a'r tywod yn braf. I'r de o'r pentref ceir gwlybdir eang Morfa Rhuddlan. Mae'r boblogaeth oddeutu 7,864. Mae'r ardal yn llawn o fyngalos bychan, parciau carafannau a chae rysys trotian Tir Prince. Yn 2001 roedd 63% o'r boblogaeth heb allu siarad gair o Gymraeg.[1]
Y peth mwyaf trawiadol am y lle heddiw mae'n debyg yw'r gwersyllfeydd carafanau gwyliau anferth rhwng y pentref a'r traeth. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf sefydlodd y Fyddin Brydeinig wersyll pebyll anferth yno (Parc Cinmel) ar gyfer hyfforddi milwyr.
Yn 1900 profodd y morglawdd yn annigonol a chafwyd llifogydd difrifol yn yr ardal.
Cludiant[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir bwsiau rheolaidd haf a gaeaf i Abergele yn y gorllewin a'r Rhyl yn y dwyrain. Mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru (Caergybi - Caer) yn mynd heibio i'r pentref; yr orsaf agosaf yw'r honno yn Y Rhyl.
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- James Henry Kinmel Sangster (1927 - 2011) Sgriptiwr ffilm a theledu a nofelydd.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwyddoniadur Cymru, golygydd John Davies, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2008 tudalen 60
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan