Pydew

Oddi ar Wicipedia
Pydew
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.295671°N 3.781282°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auRobin Millar (Ceidwadwyr)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llandudno, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Pydew (hefyd Bryn Pydew).[1] Fe'i lleolir yn ardal y Creuddyn, rhwng trefi Llandudno a Bae Colwyn tua milltir i'r gogledd o Fochdre. I'r dwyrain ceir eglwys Llangwstennin. Tua hanner milltir i'r gorllewin ceir pentref bychan arall o'r enw Esgyryn, ar gyrion Cyffordd Llandudno.

Cyfeirir at y pentref fel "Bryn Pydew" hefyd, ond "Pydew" yw'r enw mwyaf cyffredin ar lafar yn lleol. Mae Bryn Pydew ei hun, sy'n codi ger y pentref, yn warchodfa natur a reolir gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Ar 27 Hydref 1944 trawyd y mynydd gan awyren Halifax, a lladdwyd un allan o griw o saith.

Canolfan gymunedol Pydew

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 22 Tachwedd 2021