Maenan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwesty Abaty Maenan.

Pentref ar wasgar a phlwyf eglwysig ydy Maenan, tua 4 milltir i'r gogledd o Lanrwst ac i'r de o blwyf Eglwysbach. Mae'n rhan o gymuned Llanddoged a Maenan. Poblogaeth: tua 300 gyda chanran sylweddol yn siaradwyr Cymraeg.

Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn dod o gefndir amaethyddol. Ceir cymysgedd o ffermio defaid, godro ac iseldir.

Mae ail-safle Abaty Aberconwy, a fu'n abaty Sistersiaidd, yno; mae gwesty erbyn hyn ar safle'r abaty, fymryn i'r gorllewin o'r A470.

Caeodd Ysgol Maenan yn y '90au cynnar. Mae plant o Faenan yn awr yn teithio i Landdoged neu Eglwysbach am addysg gynradd, ac i Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst ar gyfer addysg uwchradd. Mae'r rhan fwyaf yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol.

Ym Maenan, mae Cadair Ifan Goch. Dywed y chwedl, yn y man hwn oedd cadair y cawr Ifan Goch. Ceir golygfeydd godidog o Ddyffryn Conwy o'r safle. Yma hefyd gallwch weld fynyddoedd y Carneddau a mynyddoedd Arenig. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar y safle ar hyn o bryd. Mae'r llwybr i fyny at y safle yn croesi drwy goetir sy'n perthyn i eiddo preifat.

Yn Yr Wigfa, ganwyd a magwyd yr awdures Mary Vaughan Jones. Mae hi'n cael ei hadnabod fwyaf fel awdures llyfrau Sali Mali. Mae llechen er côf amdani ym maes parcio Cadair Ifan Goch.

Ceir dau gapel ym Maenan: Capel Tan Soar a Chapel Salem, gyda gwasanaethau Cymraeg ar y Sul.

Ym Maenan, lleolir fragdy lleol Bragdy'r Nant yn Penrhwylfa. Dechreuodd y bragdy yn 2007 gan ŵyr yr ardal, ac mae bellach yn cyflenwi i nifer o dafarndai ar draws y rhanbarth.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.