Urdd y Sistersiaid
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Sistersiaidd)
| Enghraifft o: | yr urdd cyntaf, monastic order |
|---|---|
| Rhan o | Família cistercenca, y teulu Benedictaidd |
| Dechrau/Sefydlu | 1098 |
| Pennaeth y sefydliad | abad cyffredinol Sistersiaidd |
| Sylfaenydd | Robert of Molesme, Alberic of Cîteaux, Stephen Harding |
| Isgwmni/au | lleianod Sistersiaidd |
| Gwladwriaeth | Ffrainc |
| Gwefan | https://www.ocist.org/ocist/fr/, https://www.ocist.org/ocist/es/, https://www.ocist.org/ocist/, https://www.ocist.org/ocist/en/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0db8p |
| Thesawrws y BNCF | 48546 |
Urdd grefyddol o fynachod yn yr Eglwys Gatholig oedd Urdd y Sistersiaid. Fe'i sefydlwyd gan Sant Robert o Molesme (tua 1027-1111) fel cangen newydd lymach ei rheolau o Urdd y Benedictiaid. Citeaux yn Ffrainc, sy'n rhoi ei henw i'r urdd, oedd y fam-abaty.
Gwnaeth Sant Bernard o Clairvaux lawer i godi statws ac urddas yr urdd ac yn y 12g sefydlwyd nifer o dai Sistersiaidd ledled gorllewin Ewrop, gan gynnwys Cymru. Yn yr 17g diwygiwyd yr urdd a ymranwyd yn ddwy urdd newydd: y pwysicaf o lawer ohonyn yw'r Trapiaid.