Dawn, Conwy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ffermdir ger Dawn.

Pentref bychan iawn yn Sir Conwy yw Dawn.

Fe'i lleolir ar groesffordd wledig tua 5 milltir i'r de o Fae Colwyn. Ceir Mynydd Branar (324 m) ger y pentref. Y pentrefi agosaf yw Trofarth i'r de-orllewin a Dolwen i'r gogledd-ddwyrain, tra bod Llangernyw yn gorwedd tua 2½ milltir i'r de.

Llifa Afon Dulas trwy'r pentref ar ei ffordd o'r bryniau i aberu ym Môr Iwerddon ger Llanddulas.


CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.