Afon Dulas (Rhos)

Oddi ar Wicipedia
Afon Dulas, Rhos
Afon Dulas ger ei haber ar gwr Llanddulas
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.258276°N 3.656175°W Edit this on Wikidata
Map
Am yr afon o'r un enw yng Ngheredigion, gweler Afon Dulas (Ceredigion). Gweler hefyd Dulas (gwahaniaethu).

Afon yn ardal Rhos (bwrdeisdref sirol Conwy) yng ngogledd Cymru yw Afon Dulas. Ei hyd yw tua tuag 8 milltir.

Gorwedd tarddle'r afon yn y bryniau tua 2 filltir i'r gorllewin o Eglwysbach (ond yr ochr arall i'r bryn o'r pentref hwnnw). Mae'n llifo i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain trwy gymuned Dawn ac mae ffrwd arall yn ymuno â hi o'r de cyn cyrraedd pentref bychan Dolwen. O Ddolwen ymlaen mae'r afon yn dechrau disgyn i gyfeiriad y môr ac yn troi i gyfeiriad y gogledd. Mae hi'n llifo heibio i bentref bychan Rhyd y Foel wrth droed Pen y Corddyn ac ymlaen trwy gwm cul dan gysgod bryn Cefn yr Ogof i gyrraedd Llanddulas, a enwir ar ei hôl. Hanner milltir i'r gogledd o Landdulas mae'n aberu ym Môr Iwerddon.

Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.