Llanddoged

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Llanddoged

Pentref bychan ym mwrdeistref sirol Conwy yw Llanddoged. Mae'n rhan o gymuned Llanddoged a Maenan.

Gorwedd y pentref ar lethrau dwyreiniol Dyffryn Conwy tua milltir a hanner i'r gogledd o Lanrwst.

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llanddoged gan y sant Doged (fl. 500-542). Mae'n bosibl mai'r un yw'r Doged hwn â'r 'Doged Frenin' y cyfeirir ato yn y chwedl Culhwch ac Olwen. Llanddoged yw'r unig eglwys a gysylltir â Doged. Ar un adeg bu cerflun ohono yn yr eglwys. Mewn cae 60m o'r eglwys bresennol ceir Ffynnon Ddoged. Mae wal o gerrig o'i chwmpas a dywedir ei bod yn iachau nam ar y llygaid. Claddwyd y telynor Evan Jones (Ifan y Gorlan) (1787-1859) ym mynwent yr eglwys.

Ceir ysgol gynradd a pharc yn y pentref.


CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.