Evan Jones (Ifan y Gorlan)
Evan Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1787 Llanrwst |
Bu farw | Hydref 1859 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | telynor, harp teacher |
Telynor oedd Evan Jones neu "Ifan y Gorlan" (tua 1787 - Hydref, 1859), a fu'n enwog fel athro telynorion yn ardal Dyffryn Conwy, gogledd Cymru.
Ganed Ifan y Gorlan, fel roedd pawb yn ei adnabod, yn Llanrwst, Sir Conwy, tua'r flwyddyn 1787 neu gynt. Roedd yn delynor campus ac yn athro telyn adnabyddus. Roedd yn byw mewn bwthyn o'r enw 'Y Gorlan', tua 2 filltir o Lanrwst dan gysgod clogwyn y Garreg Oleu. Roedd ganddo ddull hynod o dynnu haearn poeth ar draws blaen ei fysedd er mwyn eu caledu i ganu'r delyn; credai y ceid gwell sain o'r tannau felly.[1]
Roedd yn dipyn o gymeriad rhamantaidd. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn byw ar ben ei hun yn 'Y Gorlan'. Yn ôl Robert Griffith, yntau'n frodor o Lanrwst, yn ei gyfrol Llyfr Cerdd Dannau:
- "Yn hen dŷ y Gorlan y treuliodd efe flynyddoedd olaf ei oes, heb neb yn gwmni ond ei delyn. A dywedir y byddai yn treulio llawer o'i amser mewn eisteddfa garreg wrth odreu un o'r clogwynni... (ger ei gartref). Yma yr eisteddai yn dawel, a'i delyn wrth ei ochr, weithiau yn ei chanu, a thro arall yn ymddiddan â hi, gyda'r fath serchogrwydd a phe buasai y gariadferch anwylaf dan haul."[2]
Roedd yn athro i lawer o delynorion ond ef, yn ôl John Griffith, oedd "yr olaf o wir linach yr hen delynorion yn Nant Conwy, yr hwn le, yn yr amser da gynt, oedd yn hynod am wneuthurwyr telynau ac fel cartref telynorion a datgeiniaid."[3]
Bu farw yn y Gorlan yn Hydref 1859, yn dros 72 oed, a chafodd ei gladdu ym mynwent Llanddoged.