Nant Conwy

Oddi ar Wicipedia
Am yr etholaethau sy'n cynnwys ardal Nant Conwy, gweler Meirionnydd Nant Conwy (etholaeth Cynulliad) a Meirionnydd Nant Conwy (etholaeth seneddol).

Cwmwd yng ngogledd Teyrnas Gwynedd, ac un o dri chwmwd cantref Arllechwedd, gydag Arllechwedd Isaf ac Arllechwedd Uchaf, oedd Nant Conwy (ffurf amgen: Nanconwy). Fel gweddill y cantref, roedd yn rhan o Esgobaeth Bangor. Mae'r enw yn parhau fel enw'r fro hyd heddiw.

Tirwedd hanesyddol[golygu | golygu cod]

Saif Castell Dolwyddelan yn Nyffryn Lledr yn rhan uchaf Nant Conwy
Cysylltir Eglwys Llanrhychwyn gyda Llywelyn Fawr.

Gorweddai cmwmd Nant Conwy yn rhan ddeheuol Dyffryn Conwy rhwng cyffiniau Maenan yn y gogledd a Llyn Conwy yn y de. Roedd yn cynnwys rhan uchaf Dyffryn Conwy, Dyffryn Llugwy, Dyffryn Lledr a Cwm Penmachno. Rhedai ei ffin ddwyreiniol ar hyd glannau afon Conwy o Faenan trwy Llanrwst i Fetws-y-Coed ac i fyny i'r de-ddwyrain i ardal Ysbyty Ifan ac yna Llyn Conwy; dyma'r ffin draddodiadol rhwng Gwynedd Uwch Conwy a Gwynedd Is Conwy neu'r Berfeddwlad yn ogystal. Yr ochr arall i'r ffin gorweddai cwmwd Uwch Dulas, cantref Rhos, ac Is Aled (Rhufoniog). O Lyn Conwy i gyfeiriad y gorllewin, dynodid y ffin gan y bryniau rhwng Cwm Penmachno a Ffestiniog, gydag Ardudwy i'r de, ac yna roedd yn troi i'r gogledd i gynnwys y bryniau uwch Nant Gwynant hyd Pen-y-gwryd, ar y ffin ag Arfon, ac ymlaen hyd Ddyffryn Mymbyr i Gapel Curig, gan rannu ffin ag Arllechwedd Uchaf. Roedd llinell rhwng Creigiau Gleision a Maenan yn dynodi'r ffin ag Arllechwedd Isaf.

Ardal goediog iawn oedd y Nant, fel y mae hi heddiw. Roedd Coedwig Gwydir yn noddfa i herwyr fel Dafydd ap Siencyn a Rhys Gethin. Mae cywydd o awduraeth ansicr (gan Iolo Goch efallai) yn canmol Rhys Gethin fel ceidwad Nant Conwy hardd yn erbyn gormes yr estronwyr:

A chadw yn brif warcheidwad
Nanconwy, mygr ofwy mad.
Milwr yw â gwayw melyn
Megis Owain glain y Glyn.[1]

Cynwysai'r cwmwd un o gestyll pwysicaf tywysogion Gwynedd, sef Castell Dolwyddelan yn Nyffryn Lledr. Cynwysai yn ogystal sawl ganolfan eglwysig yn cynnwys Penmachno lle ceir meini Cristnogol cynnar, Betws-y-Coed a Llanrhychwyn. Roedd yr olaf yn gwasanaethu fel eglwys Trefriw, safle prif lys y cwmwd yn oes Llywelyn Fawr. Roedd y "trefi" canoloesol pwysicaf yn cynnwys Trefriw, Gwydir, Cwm Llannerch, Dolwyddelan ac Eidda, yn ogystal ag Ysbyty Ifan. Y llwybrau pwysicaf oedd y rhai a arweiniai o ardal Betws i gyfeiriad Capel Curig, i fyny Dyffryn Lledr a thros Bwlch Gorddinan i Arwystli, ac o Ddolwyddelan i Nant Gwynant.

Er na wyddys i sicrwydd pryd a sut, ymddengys fod Nant Conwy wedi ei ychwanegu at gantref Arllechwedd yn yr Oesoedd Canol ac felly wedi bod yn gwmwd neu arglwyddiaeth ar wahân cyn hynny.

Plwyfi[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Henry Lewis ac eraill (gol.), Cywyddau Iolo Goch ac eraill (Gwasg Prifysgol Cymru, arg. newydd, 1937).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • A. D. Carr, 'Medieval Administrative Districts', yn Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1974)
  • E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, 1947)