Rhys Gethin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Uchelwr o Nant Conwy a chwareodd ran flaenllaw yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr oedd Rhys Gethin (fl. diwedd y 14g a dechrau'r 15fed). Roedd yn byw yn 'Hafod Rhys Gethin', Betws Wyrion Iddon, (Betws-y-Coed heddiw)[1] ym mhlwyf Betws-y-Coed, yn ôl Syr John Wynn o Wydir yn ei History of the Gwydir Family.[2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn ddisgynydd i Lywelyn Fawr ac felly'n perthyn i linach brenhinol teyrnas Gwynedd. Ei dad oedd Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Goch ap Dafydd ap Gruffudd ap Llywelyn Fawr. Ei frawd oedd Hywel Coetmor. Priododd Rhys â merch Hywel ap Meirig Llwyd o blas Nannau, Meirionnydd. Priodwyd ei ferch Margred â Siancyn ap Dafydd ab Y Crach ap Madog ap Goronwy ap Cynwrig, a'u mab nhw oedd yr herwr enwog Dafydd ap Siencyn.[3]

Yn 1390 apwyntiwyd clerigwr o Sais i ofalaeth plwyf Llanrwst gan Archesgob Caergaint. Ymateb yr uchelwyr lleol oedd gorfodi'r Sais uniaith i ymadael ar frys a dwyn ei eiddo. Dau o arweinwyr yr ymosodiad gwrthryfelgar oedd Rhys Gethin a'i frawd Hywel Coetmor.[3]

Pan dorrodd gwrthryfel Glyndŵr allan yn 1400 ymunodd Rhys a Hywel yn yr achos. Roeddynt yn arweinwyr naturiol y gymdeithas leol ac yn rhyfelwyr cadarn. Cafodd Rhys yrfa lewyrchus gyda'r tywysog. Ef mae'n debygol a arweiniodd byddin Glyndŵr o 3,000 o ryfelwyr ym Mrwydr Bryn Glas (22 Mehefin, 1402). Yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn mae'n troi i fyny yn gapten ar fyddin y tywysog yn ne Cymru yn erbyn llu Harri IV o Loegr. Yn 1403 roedd gyda Owain yn ymosod ar gastell Caerfyrddin. Ym mis Mawrth 1405 roedd yn y De eto, y tro yma'n ymosod yn aflwyddianus ar dref Grosmont a'i chastell; curwyd ei fyddin o tua 8,000 o wŷr Gwent a Morgannwg gan fyddin gref a anfonwyd o Henffordd i godi'r gwarchae.[3]

Cywydd moliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Cedwir cywydd moliant i Rys Gethin, a briodolir weithiau i Iolo Goch ond mae'r awduraeth yn ansicr. Mae'r llinellau agoriadol yn crynhoi teimlad nifer o'r Cymry am sefyllfa eu gwlad dan y Saeson:

Byd caeth ar waedoliaeth da
A droes, aml oedd drais yma;
Lle bu'r Brython Saeson sydd,
A'r boen ar Gymry beunydd.[4]

Â'r cywydd ymlaen i ganmol Rhys am ei haelioni - 'Ymron gallt mae i rannu gwin' - a'i ddewrder. Ef yw ceidwad Nant Conwy hardd yn erbyn gormes yr estronwyr:

A chadw yn brif warcheidwad
Nanconwy, mygr ofwy mad.
Milwr yw â gwayw melyn
Megis Owain glain y Glyn.[4]

Cof[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod yr ymgyrch llosgi tai haf yn y 1980au roedd "Rhys Gethin" yn cyhoeddi gweithrediadau Meibion Glyndŵr.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr (Rhydychen, 1995)
  • J. Gwynfor Jones (gol.), The History of the Gwydir Family and Memoirs (The Welsh Classics, 1990)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Family Search; adalwyd 3 Hydref 2013. Mae'r wefan yn cyfeirio at ffynhonnell arall: Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, tud. 264
  2. J. Gwynfor Jones (gol.), The History of the Gwydir Family and Memoirs (The Welsh Classics, 1990).
  3. 3.0 3.1 3.2 R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr (Rhydychen, 1995).
  4. 4.0 4.1 Henry Lewis et al. (gol.), Cywyddau Iolo Goch ac eraill (Caerdydd, 1937).