Hywel Coetmor

Oddi ar Wicipedia
Hywel Coetmor
GanwydNant Conwy Edit this on Wikidata
Bu farw1440 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson bonheddig Edit this on Wikidata

Uchelwr o Nant Conwy a chwareodd ran flaenllaw yng ngwrthryfel Owain Glyn Dŵr oedd Hywel Coetmor (bu farw tua 1440). Yn ddiweddarach bu'n ymladd ym myddin brenin Lloegr yn y Rhyfel Can Mlynedd yn Ffrainc.

Beddrod Hywel Coetmor yng Nghapel Gwydir, Eglwys Sant Grwst, Llanrwst

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Hywel yn ddisgynnydd i'r Tywysog Llywelyn Fawr ac felly'n perthyn i linach brenhinol teyrnas Gwynedd. Ei dad oedd Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Goch ap Dafydd ap Gruffudd ap Llywelyn Fawr. Ei frawd oedd Rhys Gethin, un o brif gapteiniaid Glyn Dŵr.

Yn 1390 apwyntiwyd clerigwr o Sais i ofalaeth plwyf Llanrwst gan Archesgob Caergaint. Ymateb yr uchelwyr lleol oedd gorfodi'r Sais uniaith i ymadael ar frys a dwyn ei eiddo. Dau o arweinwyr yr ymosodiad gwrthryfelgar oedd Hywel Coetmor a'i frawd Rhys Gethin.

Pan dorrodd gwrthryfel Glyn Dŵr allan yn 1400 ymunodd Hywel a Rhys ag Owain. Ymddengys iddo dderbyn pardwn ar ddiwedd y gwrthryfel, a chofnodir ei fod yn un o'r capteiniaid ym myddin Harri V, Brenin Lloegr ym Mrwydr Agincourt yn 1415. Ef oedd y cyntaf i adeiladu plasdy ar safle Plas Gwydir; yn ddiweddarach fe'i gwerthwyd gan ei fab, Dafydd ap Hywel Coetmor, i deulu'r Wynniaid. Roedd hefyd yn amlwg fel noddwr beirdd.

Claddwyd Hywel Coetmor yn Eglwys Sant Grwst yn Llanrwst, lle mae'r cerflun ohono i'w weld o hyd, er ei fod wedi ei symud o'i safle wreiddiol.

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ceir cerdd o foliant iddo gan fardd anhysbys sy'n ei gyfarch fel "Hywel Cymro, o hil Cymry," sydd o linach Llywelyn (Fawr), ac yn cyfeirio ato fel "cur y Saeson" mewn cwpled sy'n cyfeirio at Owain Glyn Dŵr.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Henry Lewis, Thomas Roberts, Ifor Williams (gol.), Cywyddau Iolo Goch ac eraill (Gwasg Prifysgol Cymru, 1937), cerdd XXXVII.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]