Eglwys Sant Crwst

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Eglwys Sant Grwst)
Eglwys Sant Grwst
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1470s Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanrwst Edit this on Wikidata
SirLlanrwst Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr9.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1381°N 3.79915°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Gothig Seisnig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iSaint Grwst Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethEsgobaeth Llanelwy Edit this on Wikidata

Yn Llanrwst, Sir Conwy, mae Eglwys Sant Grwst[1] neu Eglwys Grwst Sant. Cedwir rhai o greiriau'r Tywysogion Cymreig yma, gan gynnwys Llywelyn Fawr. Cysegrwyd yr eglwys i sant Grwst (weithiau 'Crwst'); ni wyddys lawer amdano ond ei fod yn sant lleol. Mae'r eglwys yn adeilad rhestredig Gradd I. Oherwydd yr amryfusedd ynglŷn ag enw'r sant, ceir cyfeiriadau at yr eglwys wrth yr enw Eglwys Sant Crwst hefyd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Codwyd eglwys ar y safle presennol yn 1170. Eglwys o gerrig gyda tho gwellt oedd honno, ond yn ôl traddodiad roedd eglwys gynharach ar safle a elwir hyd heddiw yn 'Cae Llan'. Llosgwyd eglwys 1170 i'r llawr yn 1468. Codwyd yr eglwys bresennol yn 1470, ond erbyn heddiw dim ond rhannau o'r adeilad hwnnw sy'n sefyll; mae'r tŵr a'r ystlys ogleddol yn perthyn i'r 19g.[2]

Ychwanegwyd Capel Gwydir yn 1633–34 gan Richard Wynn o Wydir. Ynddo ceir arch carreg Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd a Gogledd Cymru. Daeth yno o safle Abaty Maenan a chyn hynny roedd yn gorwedd yn hen Abaty Aberconwy (Conwy).

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Eglwys Sant Grwst a Chapel Gwydir[:] Taith Trwy Hanes (Prosiect Drysau Cysegredig, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy)
  2. E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.