Grwst
Grwst | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Cysylltir gyda | Trillo, Deiniol |
Llinach | Urien Rheged |
Sant cynnar o Gymru oedd Grwst (bl. diwedd y 6g). Mae'n nawddsant plwyf Llanrwst yn Sir Conwy, gogledd Cymru. Mae peth amryfusedd ynglŷn â'i enw cywir: cyfeirir ato hefyd fel Crwst, Gwrwst a Gorwst.[1] Mae Eglwys Sant Grwst, eglwys plwyf Llanrwst, wedi ei chysegru iddo.[1]
Hanes a thraddodiad
[golygu | golygu cod]Ychydig a wyddys am Grwst. Roedd yn sant Celtaidd o'r 6g ac yn ddisgynnydd i un o linachau brenhinol pwysicaf yr Hen Ogledd. Yn ôl yr achau traddodiadol a geir yn y testun Bonedd y Saint, roedd yn fab i Gwaith Hengaer, un o ddisgynyddion Urien Rheged a Coel Hen, a'i fam oedd Euronwy ferch Clydno Eiddin.[1]
Yn ôl un traddodiad, Crwst a'i gyd-seintiau Trillo a Deiniol a ardystiodd rodd o dir i Sant Cyndeyrn gan y brenin Maelgwn Gwynedd[2], ond roedd Maelgwn yn teyrnasu cenhedlaeth neu ddwy o flaen cyfnod Crwst.
Roedd cerflun pren o Sant Grwst yn eglwys Llanrwst hyd at gyfnod y Diwygiad Protestannaidd pan gafodd ei ddinistrio gan Brotestaniaid selog (gweler hefyd Derfel).[2]
Gŵyl mabsant: 1/2 Rhagfyr yn wreiddiol; 11 Rhagfyr ers newid y calendr yn 1752.