Trillo
Gwedd
| Trillo | |
|---|---|
| Ganwyd | 6 g Llydaw |
| Bu farw | 6 g |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | mynach |
| Dydd gŵyl | 15 Mehefin |
| Tad | Ithel Hael |
Hanes a thraddodiad
[golygu | golygu cod]Ni wyddys nemor ddim amdano ond yn ôl un achrestr, roedd yn fab i Ithel Hael, pendefig o Lydaw a ddaeth drosodd o Lydaw i Gymru gyda llwyth Emyr Llydaw i ddianc rhag y Ffranciaid. Yn ôl yr achrestr yma, roedd ei frodyr a'i chwiorydd yn cynnwys Fflewyn, Tegai, Twrog, Llechid, a Baglan. Ei athro oedd Sant Cadfan.
Cysegrwyd eglwysi iddo yn Llandrillo-yn-Rhos (Sir Conwy) a Llandrillo-yn-Edeirnion (Meirionnydd).
Dethlir ei wylmabsant ar 15 Mehefin.