Emyr Llydaw

Oddi ar Wicipedia
Emyr Llydaw
Ganwyd460 Edit this on Wikidata
Bu farw544 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbrenin neu frenhines, pendefig Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaTanwg Edit this on Wikidata
PlantMiliau, Riwal, Derwela Edit this on Wikidata

Emyr Llydaw, yn ôl y traddodiad Cymreig, oedd brenin Llydaw yn amser Arthur. Ond er ei fod yn gymeriad yn nhraddodiadau cynnar Cymru, mae 'emyr' yn enw cyffredin sy'n golygu 'ymerodr, arglwydd, brenin' ac mae'n debyg mai teitl cyffredinol ar frenin Llydaw oedd yn wreiddiol.

Ymhlith ei blant yn y ffynonellau Cymraeg ceir Hywel fab Emyr Llydaw, cydymaith y brenin Arthur, Gwen Teir Bron, Canna ac Alan Fergan. Yn ôl Historia Regum Brittanniae Sieffre o Fynwy, cynorthwyodd Emrys Wledig (Ambrosius) ac Uthr Bendragon ar ôl iddynt ffoi i Lydaw.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, argraffiad newydd 1991). Tud. 346-7.