Fflewyn
Jump to navigation
Jump to search
Fflewyn | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
Gwynedd ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Blodeuodd |
6G ![]() |
Cysylltir gyda |
Llanfflewyn, Hendy-gwyn ![]() |
Tad |
Ithel Hael ![]() |
Plant |
Tanwg, Gredifael ![]() |
Sant o Gymro oedd Fflewyn (fl. 6g). Ef yw sefydlwr traoddiadol a nawddsant eglwys Llanfflewyn, ym mhlwyf Llanrhuddlad ar Ynys Môn.
Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Ychydig iawn a wyddys am y sant ei hun. Dywed traddodiad ei fod yn fab i Ithel Hael (Ithael Hael). Ceir dwy achrestr o blant Ithel. Yn y gyntaf cyfeirir at y seintiau Tanwg a Gredifael (a Fflewyn) fel plant iddo. Cysylltir yr rhain â Gwynedd. Mae'r achrestr arall yn ei wneud yn frawd i'r seintiau Tecwyn, Tegai, Trillo, Twrog, Llechid, a Baglan.[1]
Dywedir fod Fflewyn yn un o oruchwylwyr clas enwog Hendy Gwyn ar Dâf, gyda'i frawd Gredifael.[1]
Dethlir gwylmabsant Fflewyn ar 11 Rhagfyr (neu'r 12fed).[1]