Tanwg
Gwedd
Tanwg | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Ynys Môn ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | mynach ![]() |
Blodeuodd | 6 g ![]() |
Cysylltir gyda | Emyr Llydaw ![]() |
Dydd gŵyl | 10 Hydref ![]() |
Tad | Ithel Hael ![]() |
Sant o Gymru oedd Tanwg (fl. 6g), a oedd yn fab i Ithael Hael, a ffoes o Lydaw i Gymru gydag Emyr Llydaw yn ôl traddodiad.[1] Dethlir ei Ŵyl Mabsant ar 10 Hydref.
Hanes a thraddodiad
[golygu | golygu cod]Ychydig iawn a wyddys am y sant ei hun. Dywedir ei fod wedi astudio yng nghlas enwog Ynys Enlli. Roedd yn frawd i ddau sant arall, Gredifael (Penmynydd) a Fflewyn (a gysylltir â Llanrhuddlad ym Môn). Mae rhai achau yn ei wneud yn frawd i'r seintiau Tecwyn, Tegai, Trillo, Twrog, Baglan a Llechid yn ogystal. Dywedir fod Tanwg wedi dod i'r ardal yng nghwmni'r sant Cadfan, a sefydlodd clas Tywyn.[1]
Sefydlodd Llandanwg yn Ardudwy, Gwynedd. Ar un adeg roedd eglwysi Harlech a Llanbedr yn gysegredig iddo hefyd.[1]