Llechid

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llechid
Llanllechid Church - geograph.org.uk - 110331.jpg
Ganwyd 6G Edit this on Wikidata
Gwynedd Edit this on Wikidata
Man preswyl Llanllechid Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Blodeuodd 0560 Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 1 Rhagfyr Edit this on Wikidata
Tad Ithel Hael Edit this on Wikidata

Santes o'r 6g oedd Llechid, sefydlydd a nawddsant plwyf Llanllechid, yn Arllechwedd, Gwynedd.[1]

Llinach[golygu | golygu cod y dudalen]

Y cwbl gwyddom amdani yw ei bod yn ferch i Ithel Hael (Ithael Hael). Dihangodd ei theulu o Lydaw gyda teulu Emyr Llydaw gan ymsefydlu ar arfordir gorllewin Gwynedd gyda caniatâd teulu Maelgwn Gwynedd.[2] Ceir dwy achrestr o blant Ithel. Yn y gyntaf cyfeirir at y seintiau Tanwg Gredifael a Fflewyn fel plant iddo.[1] Cysylltir yr rhain â Gwynedd. Mae'r achrestr arall yn ei gwneud yn chwaer i'r seintiau Tecwyn, Tegai, Trillo, Twrog, a Baglan[1].

Ar un adeg bu Ffynnon Llechid yn ymyl hen eglwys ger y pentref. Dwedwyd fod dŵr y ffynnon yn medru wella afiechydon y croen a rhai mathau o'r dicáu.[1]

Ei gwylmabsant yw 1 Rhagfyr (neu'r 2il).

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Breverton, D, 2000, The Book of Welsh Saints, Glyndwr
  2. Baring Gould a Fisher, gol. Bryce, 1990, Lives of the British Saints, Llanerch