Tecwyn

Oddi ar Wicipedia
Tecwyn
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Bu farw6 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Dydd gŵyl14 Medi Edit this on Wikidata
TadIthel Hael Edit this on Wikidata

Sant o Gymro oedd Tecwyn (fl. 6g). Ef yw sefydlwr traoddiadol a nawddsant eglwys Llandecwyn, y plwyf cyfagos i blwyf Llanfihangel y Traethau yn Ardudwy, Gwynedd.[1]

Eglwys Llandecwyn yn y gaeaf.

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]

Dywed traddodiad ei fod yn fab i Ithel Hael (Ithael Hael). Ceir dwy achrestr o blant Ithel. Yn y gyntaf cyfeirir at y seintiau Tanwg, Gredifael, a Fflewyn fel plant iddo. Cysylltir yr rhain â Gwynedd. Mae'r achrestr arall yn ei wneud yn frawd i'r seintiau Fflewyn, Tegai, Trillo, Twrog, Llechid, a Baglan.[1]

Dywedir fod Fflewyn wedi dod drosodd o Lydaw gyda sant Cadfan ac Emyr Llydaw i sefydlu Llandecwyn.[1]

Darganfuwyd hen groes Geltaidd pan dynwyd yr hen eglwys i lawr yn 1879 i adeiladau un newydd yn ei lle. Cyfeirir yr arysgrif Ladin at 'yr offeiriad Tecwyn'. Roedd yna Ffynnon Decwyn gerllaw hefyd a safai Maen Tecwyn mewn cae cyfagos.[1]

Dethlir gwylmabsant Tecwyn ar 14 Medi.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2001).