Twrog
Gwedd
| Twrog | |
|---|---|
Sant Twrog; llun o ffenestr liw yn Eglwys Sant Twrog, Maentwrog, Gwynedd. | |
| Ganwyd | Teyrnas Gwynedd |
| Dinasyddiaeth | |
Sant o'r chweched neu'r 7g oedd Twrog. Yn ôl yr achau roedd yn fab i Ithel Hael.
Hanes a thraddodiad
[golygu | golygu cod]Dywedir iddo sefydlu eglwys yn Llandwrog (ger Caernarfon, Gwynedd). Twrog yw nawddsant Maentwrog ym Meirionnydd (de Gwynedd) hefyd. Yn ogystal mae'n nawddsant Bodwrog ym Môn.[1]
Ym Maentwrog ceir carreg anferth yng ngongl yr eglwys, sy'n wahanol i'r cerrig eraill ynddi, ac a elwir wrth yr enw Maen Twrog. Yn ôl traddodiad taflodd y sant y maen mawr o ben y Moelwynion.[1]
- Llandwrog, Caernarfon
- Eglwys Bodwrog, Ynys Môn
- Sant Twrog, Maentwrog
- Ynys Twrog, Ystrad Hafren, Swydd Gaerloyw
Ei wylmabsant yw 26 Mehefin (hefyd 15 Awst).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eglwys Sant Twrog, Maentwrog
- Llandwrog, Caernarfon
- Maentwrog, Gwynedd