Neidio i'r cynnwys

Eglwys Sant Twrog, Maentwrog

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Sant Twrog
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1896 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadMaentwrog Edit this on Wikidata
SirMaentwrog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9456°N 3.9895°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iTwrog Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddgwenithfaen Edit this on Wikidata

Eglwys ym mhentref Maentwrog, ym mhlwyf Bro Moelwyn yw Eglwys Sant Twrog sydd yn Nyffryn Ffestiniog, ym Mharc Cenedlaethol Eryri (Cyfeirnod grid: SH6641440544). Bu yma eglwys ers y 6g, a honno wedi'i sefydlu gan Twrog a oedd yn fab i Ithel Hael o Lydaw. Cofrestrwyd yr adeilad gan Cadw yn Chwefror 2005 fel Gradd II.[1] Fe'i codwyd yn 1896, fel y tystia'r dyddiad ar ran o'r fondo ar seiliau eglwys cynharach, a godwyd yn 1814; bu yma eglwys cyn hynny a godwyd yn yr Oesoedd Canol. Defnyddiwyd cerrig yr eglwys wreiddiol yn yr eglwysi a'i dilynnodd.[2]

Eglwys Sant Twrog

Mae enw’r pentre'n cyfeirio at 'garreg' (neu 'faen') Twrog. Dywed hanes lleol i gawr o'r enw Twrog daflu conglfaen o gopa'r Moelwyn, gan ddinistrio allor baganaidd a safai yma. Me'r maen yn dal i fod yno, ger cornel yr eglwys, a dywedir bod ôl dwylo Twrog arni. Cyfeirir at y maen hwn yn y Mabinogi fel 'Maen Tyriawg uwch y Felenrhyd', sef man claddu Pryderi.

Credir bod y tair ywen yn y fynwent dros 1300 oed. Mae'r gwaith coed yn y to a'r nenfwd yn hynod o gain, a cheir sawl colofn bren wedi'i chrefio'n gywrain. Ceir rhai cofebau nodedig sy'n dyddio i ddechrau'r 18g. Roedd gan yr eglwys hon gysylltiad cryf gyda Phlas Tan y Bwlch.

Credir ei fod yn fab i Ithel Hael ac yn frawd i Tanwg o Landanwg, Tegai o Landegai a Baglan o Lanfaglan.[3] Ceir dwy eglwys arall wedi'u cysegru i Twrog: Bodwrog ar ynys Môn a Llandwrog ger Caernarfon.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. www.britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 2015
  2. www.coflein.gov.uk; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 2015
  3. Enwogion Cymru gan Robert Williams, Llanymddyfri, 1852. URL: http://books.google.co.uk/books?id=_wMGAAAAQAAJ

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]