Parc Cenedlaethol Eryri

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Parc Cenedlaethol Eryri
Llyn Llydaw from Crib Goch 2.jpg
Mathparc cenedlaethol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlEryri Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1951 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,142 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.93°N 3.93°W Edit this on Wikidata
Statws treftadaethGwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol Edit this on Wikidata
Manylion
Erthygl am y parc cenedlaethol yw hon. Am yr ardal draddodiadol gweler Eryri.
Map o Barc Cenedlaethol Eryri
Parciau Cenedlaethol Cymru: 1. Eryri 2. Arfordir Sir Benfro 3. Bannau Brycheiniog.
Plas Tan y Bwlch, un o ganolfannau Parc Cenedlaethol Eryri

Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri ym 1951 fel y trydydd parc cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Mae'n un o dri pharc cenedlaethol yng Nghymru (gweler hefyd Bannau Brycheiniog a Phenfro). Mae ffiniau'r parc yn cynnwys tua 214,159 hectar (840 milltir sgwâr), ardal llawer ehangach na'r ardal a adwaenid fel Eryri yn hanesyddol.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ymestyn dros 2,171 cilometr sgwâr dros ardaloedd Gwynedd a Chonwy, gydag oddeutu 25,000 o drigolion yn byw y tu mewn i’w ffiniau. Yng nghyfrifiad 2011, roedd 59% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Gyda miliynau o ymwelwyr yn dod pob blwyddyn, dyma'r trydydd parc cenedlaethol mwyaf poblogaidd drwy Gymru a Lloegr.

Rheolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r parc o dan rheolaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n cael ei redeg gan bwyllgor sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r awdurdodau lleol, sef Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Conwy, a Llywodraeth Cymru. Mae'r tir cyhoeddus a'r tir preifat ill dau o dan reolaeth yr un awdurdod cynllunio. Rhennir perchnogaeth tir yn y parc fel a ganlyn:

Llywodraethir Awdurdod y Parc gan 18 aelod, ac mae 9 o’r aelodau'n Gynghorwyr wedi’u penodi gan Gyngor Sir Gwynedd, 3 wedi’u penodi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a 6 aelod wedi’u henwebu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.[1][2] Yn 2014 roedd 93% o'i staff, 144 allan o gyfanswm o 155, yn medru siarad Cymraeg.

Yn y 1970au cynnar, yn dilyn ad-drefniant Llywodraeth Leol, daeth Parc Cenedlaethol Eryri yn adran o Gyngor Sir Gwynedd. Ym 1974 daeth cyfrifoldeb am gynllunio o dan adain y Parc Cenedlaethol. Prynodd y Parc Cenedlaethol dir mewn sawl safle poblogaidd er mwyn cynnig gwasanaethau i ymwelwyr gan gynnwys: Llyn Cwellyn, Llynnau Mymbyr, Betws y Coed, Beddgelert a Nant Peris, ac agorwyd Plas Tan y Bwlch fel canolfan astudio yn 1975. Lansiwyd cynllun bws Sherpa’r Wyddfa i ddatrys problemau parcio mewn safleoedd poblogaidd drwy gludo cerddwyr.

Math perchenogaeth siâr (%)
Preifat 69.9
Y Comisiwn Coedwigaeth 15.8
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 8.9
Cyngor Cefn Gwlad Cymru 1.7
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 1.2
Cwmniau dŵr 0.9
Eraill 1.6

Gyda chyllideb o oddeutu 6 miliwn, daw 75% gan Lywodraeth Cymru a'r gweddill trwy ardollau siroedd perthnasol.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Eryri - Snowdonia". www.eryri.llyw.cymru. Cyrchwyd 2020-11-10.
  2. Dogfen iaith y Parc;[dolen marw] adalwyd 2 Mehefin 2014
  3. Gwefan y Parc; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 2 Mehefin 2014.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • W. M. Condry, The Snowdonia National Park, Cyfres New Naturalist (Llundain: Collins, 1966)
  • Gweler hefyd yr adran 'Darllen pellach' yn yr erthygl Eryri.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag map of Wales.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.