Llyn Cwellyn

Oddi ar Wicipedia
Llyn Cwellyn
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBetws Garmon Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0722°N 4.1517°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Map

Mae Llyn Cwellyn yn llyn yn Eryri, gogledd Cymru, sy'n gorwedd rhwng Yr Wyddfa yn y de a Mynydd Mawr yn y gogledd, a rhwng pentrefi Rhyd-ddu a Betws Garmon gerllaw ffordd yr A4085. Er ei fod yn wreiddiol yn llyn naturiol, caiff ei ddefnyddio fel cronfa i gyflenwi dŵr i rannau o Wynedd ac Ynys Môn.

Llyn Cwellyn.
Fideo o rai o'r llynnoedd ac afonydd Cymru, fel Llyn Cwellyn, sy'n cael eu gwarchod a'u rheoli er mwyn diogelu'r bywyd gwyllt sy'n byw yn eu cynefin.
Ffotograff o tua 1890-1900

Mae Llyn Cwellyn yn llyn gweddol fawr gydag arwynebedd o 215 erw (0.87 cilometr sgwar), ac mae dros 120 troedfedd o ddyfnder yn y man dyfnaf. Mae mapiau Arolwg Ordnans yn dangos dyfnder y dŵr yn y llyn [1] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback.. Mae Afon Gwyrfai yn llifo trwyddo. Adeiladwyd argae yn y rhan ogleddol, ond nid yw hyn wedi ychwanegu rhyw lawer at faint y llyn. Ymhlith y pysgod a geir yn y llyn mae'r Torgoch.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)