A4085

Oddi ar Wicipedia
A4085
Mathffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0402°N 4.1243°W Edit this on Wikidata
Hyd19.9 milltir Edit this on Wikidata
Map

Priffordd yng Ngwynedd yw'r A4085. Mae'n arwain o Gaernarfon i Benrhyndeudraeth.

O ganol Caernarfon, mae'n arwain tua'r de-ddwyrain, gan fynd trwy gaer Rufeinig Segontium ar gyrion y dref. Wedi mynd trwy'r bwlch rhwng Moel Eilio a Mynydd Mawr, mae'n arwain ar hyd glan ddwyreinol Llyn Cwellyn a Llyn y Gadair, gyda llethrau gorllewinol yr Wyddfa yr ochr arall i'r ffordd. Ym mhentref Beddgelert, mae'n ymuno a'r briffordd A498 am ychydig, trwy Fwlch Aberglaslyn, cyn ymwahanu eto ger Pont Aberglaslyn ac arwain tua'r de-ddwyrain trwy Garreg, Llanfrothen i'w chyffordd gyda'r A487 ym Mhenrhyndeudraeth.

Lleoedd ar yr A4085[golygu | golygu cod]