Moel Eilio
Gwedd
| Math | mynydd, copa |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Waunfawr, Llanberis, Betws Garmon |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 726 metr |
| Cyfesurynnau | 53.0969°N 4.1595°W |
| Cod OS | SH5558157718 |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 259 metr |
| Rhiant gopa | Yr Wyddfa |
| Cadwyn fynydd | Eryri |
![]() | |
Mae Moel Eilio yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri. Saif i'r de-orllewin o bentref Llanberis ac i'r gogledd-ddwyrain o Fetws Garmon. Ef yw'r mwyaf gogleddol o gadwyn o fryniau i'r gogledd-orllewin o gopa'r Wyddfa ei hun; y lleill yw Foel Gron, Foel Goch a Moel y Cynghorion. Saif Llyn Dwythwch i'r dwyrain o'i gopa. Gellir ei ddringo o Lanberis, a gellir un ai cerdded ar hyd y grib cyn belled a Moel y Cynghorion cyn cymryd llwybr arall yn ôl i Lanberis, neu ddisgyn i Fwlch Cwm Brwynog a mynd ymlaen i gopa'r Wyddfa.

