Torgoch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Torgoch
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Actinopterygii
Urdd: Salmoniformes
Teulu: Salmonidae
Genws: Salvelinus
Rhywogaeth: S. alpinus
Enw deuenwol
Salvelinus alpinus
Linnaeus, 1758

Pysgodyn o deulu'r Salmonidae yw'r Torgoch (Salvelinus alpinus). Fe'i ceir yn naturiol mewn rhai llynnoedd yn Eryri: Llyn Bodlyn, Llyn Cwellyn a Llyn Padarn. Fe symudwyd y torgochiaid oedd yn Llyn Peris i nifer o lynnoedd eraill - Llyn Cowlyd, Llynnau Diwaunedd. Llyn Dulyn a Ffynnon Llugwy pan adeiladwyd Gorsaf Bŵer Dinorwig, ond dywedir fod y torgoch wedi dychwelyd i Lyn Peris.

Mewn rhai rhannau o'r byd, megis Canada, gwledydd Llychlyn a Siberia mae'n llawer mwy cyffredin.

Hanes y bysgodfa dorgoch yn Eryri[golygu | golygu cod y dudalen]

Mewn truth hir am bob math o ddigwyddiadau yn Y Drych (5 Tachwedd 1914) nodir:- "Ym mysg y pysgod gwneir difrod garw ar y torgochiaid yn llyn Llanberis y dyddiau hyn. Mae llawer yn cael helfa dda aml i ddiwrnod, tra gwerthir hwy yn rhwydd am swllt y pwys."[1]


Ac yn Herald Cymraeg 1909, nodir: TORGOCHIAID LLYNOEDD PADARN, PERIS', CAWELLYN

Y mae yn llynoedd Padarn, Peris a Cawellyn bysgod a elwir y "Torgoch," neu y "Torgochiaid." Cawsent yr enw Torgoch oddi wrth y lliw coch ysblenydd sydd ar hyd boliau y gwrywod. Y mae tor y fenyw yn wahanol o liw arianaidd, ond yr adain yn goch, er nid mor goch a'r gwryw. Gyda genwair neu wialen y delir hwy yn y blynyddoedd hyn, fel y math ereill o bysgod, tra mai gyda rhwyd yn unig y delid hwy yn yr hen amser [cyn 1909].

Dechreuid rhwydo yn yr hen amser yn llynau Llanberis tua chanol Tachwedd, ac yn para hyd ddiwedd Rhagfyr. Dechreuid yn Llyn Cawellyn tua dechreu lonawr, a pharha am fis, neu weithiau fwy. Dywed y bardd Dafydd Ddu Eryri, yn y "North Wales Gazette" am Chwefror 2, 1809, y buwyd yn dal tua mil ohonynt yn Llyn Cawellyn mewn tair wythnos. Daliwyd tua thriugain dwsin yn Llyn Padarn ar un ddalfa. Gwna hyny 720 mewn un noson, tra y dywed Dafydd Ddu na cheid cymaint yn Llyn Cawellyn. Dywed eto yn mhellach (a chofier fod cant o flynyddoedd i mis Chwefror diweddaf er hyny), mai y Torgoch mwyaf ddaliwyd yn Llynau Llanberis oedd ddeng modfedd o hyd, tra y mae Torgochiaid Cawellyn yn llai, yn mesur prin wyth modfedd. "Ymddengys," meddai, "mai yr un rywogaeth o Dorgochiaid sydd yn Llynau Llanberis a Cawellyn." Gofynwyd i Dafydd Ddu, gan wr o'r enw Humphrey Owen, a ganlyn: —

"Pa fath dywydd yw'r goreu i'w dal, pa un ai ystormus ai tawel, oer ai cynhes, rhew, barug ai meiriol?".
"Tywydd rhew tawel ydyw y goreu i ddal y Torgoch," ebe'r prydydd.
"Pa amser ar y diwrnod, nos ai gwyll, yw'r goreu i'w dal?"
"Tuag awr wedi gwyll y nos, neu awr neu ddwy cyn toriad y dydd, ydyw'r amser goreu i fwrw rhwyd am Dorgochiaid."
"A ellir gwybod eu hoedran, megis, un, dwy, tair blynedd?"
"Mewn perthynas i'w hoed, nid oes dim sicrwydd. Pan y bydd y Torgochiaid yn dyfod i'r glanau i gladdu, nid ymddengys llawer o wahaniaeth yn eu maintioli."
"A ellir eu dall a genwair? Os felly, beth yw yr abwyd goreu?"
"Ni wyddis am i'r Torgoch erioed gael ei ddal a genwair."
"Pa beth yw eu hymborth? A ydynt yn bwyta eu rhywogaeth eu hunain, ai ynte pysgod eraill?"
"Mae'n ymddangos mai yn yr amser y maent yn claddu y delir y Torgoch; gan hyny, mae'n anhawdd gwybod pa beth yw eu prif ymborth."
"Beth yw eu pris at eu gilydd, y pwys, neu y dwsin?"
"Y mae'r Torgochiaid yn cael eu gwerthu (gan eu bod y fath bereiddfwyd) am tua swllt y dwsin."
Yn mha le y trigent yn amser eu hymguddiad? Pa un ai ar waelod y llyn, ai mewn ogofeydd fel y tybia rhai?"
"Bernir mai trigle cyffredin y Torgoch yw gwaelod y llyn. Gwelwyd heidiau ohonynt amser yn ôl yn neidio tua chanol Llyn Padarn, eithr ni ddeuant yn amlwg ond yn amser claddu."
"A welwyd rhai allan o'r llyn, yn yr afon. tu isaf, neu uwchlaw iddo?"
"Ni ddaliwyd yr un Torgoch yn un o'r llynau eraill. Yn Llyn Cawellyn, ni ddelir hwynt ond mewn un man, sef yn ngheg yr afon, gerllaw y Caeau Gwynion, wrth ochr y ffordd fawr."
"A welwyd rhai yn Llynau Lianberis, Cwm Silyn, neu Gwm Dulyn?"
"Dywed llafar gwlad iddynt ymddangos gyntaf yn Llynau Llanberis, yna yn Nghawellyn, ac yn olaf yn Cwm Silyn; a thybid gynt fod cysylltiad tanddaearol o'r naill i'r llall. Yn Llyn Uchaf Llanberis [Peris?], delir hwynt wrth enau y bont fawr, mewn lle graianog; ac hefyd yn nghwr isaf y llyn. Yn y llyn isaf, sef Padarn, delir hwynt wrth Ddol y Tydu, ac wrth agorfa Bala Deulyn (sef Pont y Bala yn awr). Daliwyd dros driugain dwsin o'r Torgoch ar un dynfa, rai blynyddoedd yn ol, yn y ddau le uchod. Tybir fod y dwfr mwnawl [mwynaidd?] sydd yn rhedeg o waith copr, yr hwn sydd yn nghwrr uchaf Llyn Peris, yn niweidio, nid yn unig y Torgoch, ond hefyd bysgod eraill. Y mae'r gwaith hwnw yn awr wedi sefvll, a chaed helfa doreithiog y tvmhor diweddaf. Am fynedfa tanddaearol o'r naill lyn i'r llall. Mae y peth yn rhy anhawdd ei benderfynu. Gadewir y pwnc i farn gwyr o addysg. ond y mae'n wir ei fod yn draddodiad ar len gwerin gwlad."
"A fydd y pysg fyw yn hir. mewn dwfr arall ar ol eu dal, megis ffynnon, neu gelwrn [bwced] a dwfr?"
"Nid ymddengys fod y Torgoch yn gallu byw unrhyw amser mewn un dwfr. oddieithr yr hwn y dygwyd ef ohono. Buwyd yn eu cadw'n fyw lawer gwaith am ddiwrnod neu ddau mewn basged yn nghwrr y lIyn. ac felly y buwyd yn eu cario i lynau ereill, lle y trigent [marw] yn fuan; ond pa un a ydynt yn meirw o eisieu maethlondeb, dwfr tyner, gwaelod graianog, neu rhyw achosion eraill, feallai nas gellir penderfynnu, 'Canys pwy a all draethu dirgelwch y dyfnder?'
"A fyddai'n bosibl eu heigio mewn llynoedd eraill.
"Oherwydd y rhesymau uchod. ymddengys eu trosglwyddiad yn anmhosibl."

Dyna i'r darllenydd holiadau ag atebion cant oed am y Torgochiaid. Mae pethau wedi troi o chwith erbyn heddyw. Welodd Dafydd Ddu Eryri a'i gydoeswyr erioed ddal y Torgoch gyda genwair, ond gyda rhwyd, ond erbyn heddyw ychydig iawn yw'r nifer welodd ddal y Torgoch gyda rhwyd, ond gyda genwair. Gallem gasglu fod mwy o Dorgochiaid yn Llynoedd Padarn a Peris pan oedd rhyddid i'w rhwydo, na phan na cheir ond eu genweirio. Cefais ymgom gyda yr henafgwr Robert Rowland, Snowdon Street, y dydd o'r blaen, un o enweirwyr goreu'r fro, ond sydd erbyn hyn wedi peidio; oherwydd gwaeledd. Coeliaf fod yr hanes yn werth ei gadw ar gyfrif dechreuad pysgota y Torgoch gyda genwair. Dywedaf yr hanes yn ei ddull syml ef wrthyf.

"Yr oeddwn i a Hugh Thomas, Bryn-tyrch, yn pysgota brithilliaid yn yr Ynys Felan, sef yr afon sydd rhwng Llyn Padarn a Peris, ac yr oeddwn i yn pysgota o'r cwch i'r bas, a Hugh Tomas i'r dyfn, a dyma fi yn dechreu dal yn y lle mas [bas?, sic], a Hugh yn dal dim un yn y dyfn. 'Toedd yr un ohonom yn meddwl mai Torgochiaid oeddan nhw, ond yn meddwl mai brithilliaid, achos yr oedd hi yn rhy dywyli i'w gwel'd nhw yn iawn. Yr oeddan wedi myn'd i ddechreu pysgota cyn toriad y dydd. Beth bynag, mi ddalis i bedwar ar bymtheg ohonyn nhw, ac 'rydw i yn cofio yn iawn eu bod nhw yn pwyso pum' pwys, ond ddaliodd Hugh Tomos ddim un, ond un brithhill bach. Chlywis i ddim son erioed fod neb wedi dal y Torgoch cyn hyny hefo genwar."
"Faint o amser sydd er hyny, Robert Rolant?"
"Wel, twn [sic] i ddim yn iawn, ond rydw i yn cofio mai amser gweithio pedwar diwrnod yn y chwarel oedd hi - tua ugain o flynyddoedd, mae'n debyg. Cofiwch hyn, mai'r tymhor wed'yn y dechreuodd pawb yn gyffredinol eu pysgota hefo genwar. Mi welis i gimint a phymthag ar hugian o gychod ar y llyn yna ar unwaith, a phawb yn dal rhywfaint.
"Oeddynt hwy yn arfer a rhwydo y Torgochiaid cyn dechreu eu pysgota hefo genwair?"
"Oeddynt, agos bob blwyddvn, ac yn dal peth ofnadwy. Mi gwelis i nhw yn tynu rhyw ddau gybynad i'r lan ar un tynfa. 'Rwy'n meddwl na fethwn i ddim wrth ddweud bod 'na filoedd yn cael eu dal."
"Ydych chwi yn meddwl fod yna gymaint ohonynt yn awr ag a fu?"
"Nac oes, 'rwy'n credu. Gwaith effeithiol i gynnyddu pysgod ydyw rhwydo. Rwy' bron yn sicr y byddai un cwch, rhyw ugian i bump ar hugian o flynyddoedd yn ol yn dal mwy ohonynt nac a ddelir ar hyd y tymhor yrwan. Dyma i chwi beth arall am danynt, ni fyddem yn eu dal yn nechreu y tymhor — tua diwedd mis Mehefin, yn ngwaelod y llyn, rhyw bymtheg i ugian llath o ddyfn, ag at ddiwedd y tymhor byddent yn codi i fyny i'r wyneb agos."

Coeliaf fod ffeithiau Dafydd Ddu a ffeithiau Robert Rowlant yn llefaru, mai po fwyaf a ddelir ohonynt mai mwyaf oll fydd ohonynt. Ni threiaf gysoni hyn.[2]

  • 'Dal pysgod ar y gwelyau claddu [dodwy] oeddynt gyda rhwydi - felly roeddynt yn llawn o rawn a 'milt' ac nid oedd ansawdd y cig ddim yn rhyw dda iawn. 'Roeddynt yn cael ei piclo yr amser yma - ond mae'n debyg fod eu cig yn llawn maeth

er yn feddal, ac yn cael ei groesawy fel rhywbeth gwahanol iw prydau bwyd.[3]

Llên Gwerin[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae hen son wedi bod am y twnel o Padarn i Cwellyn a dyna pam fod pysgod yn cael ei dal yn Nhachwedd a Rhagfyr yn Nyffryn Peris ac yn ystod Ionawr ar Cwellyn - ar ol mynd drwy'r twnel.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Drych, 5 Tachwedd 1914 (DW-T)
  2. awdur y traethawd: WILLIAM WILLIAMS. Bod y Gof, Llanberis
  3. 3.0 3.1 Cys. Pers. Huw Hughes (Llanberis, Cadeirydd Cymdeithas Pysgotwyr Seiont, Gwyrfai a Llyfni
Fish template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am bysgodyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.