Dŵr Cymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dŵr Cymru Welsh Water
Math o fusnes
Cwmni cyfyngedig
Diwydiant Gwasanaeth Cyhoeddus
Sefydlwyd 1989
Pencadlys Nelson, Caerffili
Pobl allweddol
Chris Jones
Gweithwyr
3,000
Rhiant-gwmni Glas Cymru Ltd.
www.dwrcymru.com
Mae Glas Cymru yn ailgyfeirio i'r dudalen hon.

Cwmni nid-er-elw ydy Dŵr Cymru (Saesneg: Welsh Water), sy'n cyflenwi'r mwyafrif helaeth o ddŵr yfed a gwasanaethau dŵr gwastraff yng Nghymru, a hefyd i rannau o orllewin Lloegr. Mae'n cael ei reoleiddio dan Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991 a addaswyd dan Ddeddf Dŵr 2014.[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd Dŵr Cymru yn 1989 ar ôl i'r gwasanaethau dŵr yng ngwledydd Prydain gael eu preifateiddio. Heddiw mae'n eiddo Glas Cymru, 'cwmni cyfyngedig trwy warant' dielw a sefydlwyd yn unswydd er mwyn prynu a rhedeg Dŵr Cymru. Dydy Glas Cymru ddim yn rhedeg unrhyw gwmni na menter arall.[2]

Bu'r cwmni yn darged i brotestiadau yng Nghymru yn erbyn ei gynllun dadleuol i droi safle Brodordy Llan-faes ar Ynys Môn, lle claddwyd y Dywysoges Siwan yn 1237, yn waith carthffosiaeth. Gwrthododd Cadw gefnogi'r protestiadau a gweithredwyd y cynllun.

Ailenwyd y cwmni yn Hyder yn 1996 ar ôl iddo gymryd drosodd y cwmni trydan SWALEC (yn ne Cymru) a daeth yn gwmni dŵr a thrydan.

Fodd bynnag, in 1999/2000, oherwydd y dreth newydd ar elw cwmnïau iwtiliti ac adolygiad prisiau Ofwat yn 1999, aeth Hyder i drafferthion ariannol a arweiniodd iddo dorri i fyny ar ôl brwydr am ei feddiant. Prynodd Western Power Distribution gwmni Hyder ar y 15fed o Fedi 2000 er mwyn cael ei fusnes dosbarthu trydan, a gwerthwyd asedau eraill Hyder. Gwerthwyd Dŵr Cymru i Glas Cymru am £1, ond gyda £1.85 biliwn o ddyled Hyder hefyd.

Ardal[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Dŵr Cymru yn cyflenwi dŵr i'r rhan fwyaf o Gymru ac eithrio ardal basn dŵr Afon Hafren yng ngogledd Powys, sy'n cael ei wasanaethu gan gwmni dŵr Hafren Dyfrdwy, un o isgwmniau Severn Trent. Dros Glawdd Offa mae Dŵr Cymru yn goruchwylio cyflenwi dŵr i rannau o Swydd Gaer ac ardal Cilgwri, a hefyd i rannau o Swydd Gaerloyw a Swydd Henffordd, yn enwedig Henffordd ei hun.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]