Morfa Gwent

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Morfa Gwynllŵg a Chil-y-Coed
Caldicot Moor trig - geograph.org.uk - 100666.jpg
Math coastal plain, gwlyptir, ardal Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Caldicot Hundred, Wentloog Hundred Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Fynwy, Casnewydd, Dinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Gerllaw Aber Hafren Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 51.58°N 3°W Edit this on Wikidata

Morfa Gwent yw rhan ddeheuol, arfordirol yr hen Sir Fynwy, rhan o sir seremonïol Gwent. Fe'i lleolir rhwng Caerdydd yn y gorllewin a Chas-gwent yn y dwyrain. Caiff ei rhannu'n ddwy gan aber yr Wysg: Morfa Gwynllŵg (Wentlooge levels) i'r gorllewin a Morfa Cil-y-coed (Caldicot Level) yn y dwyrain; saif Casnewydd yn union yn y canol.

Yn Hydref 2020 cyhoeddodd Boris Johnson, Prif Weinidog y DU ei fwriad i fynd ati i greu traffordd 'coridor yr M4', drwy'r ardal, er gwaethaf penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio a gwneud hynny oherwydd pwysigrwydd y safle.

Cynefin o ddiddordeb gwyddonol, hanesyddol a harddwch naturiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir yma 8 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gan gynnwys Aber Hafren, Coetir Pen-hŵ ac un safle Natura2000 sydd hefyd yn safle RAMSAR, sef aber yr Hafren; ceir hefyd ardal gadwriaethol oddeutu Redwig.[1] Mae yma hefyd un Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol hynod bwysig Cors Fagwyr.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent a'r Gofrestr o Dirluniau Hanesyddol ( Historic Landscapes Register), mae'r ardal yn "arbennig o unigryw o ran amrywiaeth gyfoethog ei chynefinoedd a'i harchaeoleg".

Fel mae'r gair 'morfa' yn ei awgrymu, mae llawer o'r ardal yma yn is na lefel y llanw Uchel Cymedrig ac yn dir sydd wedi ei adennill o'r môr dros gyfnod o 2,000 o flynyddoedd. Yn hanesyddol mae lefel y môr wedi amrywio ac ar adegau roedd yn llawer is nag y mae heddiw. Mae'n dirwedd arbennig, wastad, isel gyda rhwydwaith o ddyfrffosydd sy'n llifo rhwng caeau amaethyddol. Adenillwyd corsydd a thir yma yn Oes y Rhufeiniaid. Mae'r gwaddodion a'r mawnogydd yn gorchuddio tystiolaeth archeolegol sy'n dyddio o Oes Ganol y Cerrig (y Mesolithig), gydag olion traed dynol mewn clai wedi eu ffosileiddio yn Allteuryn, ac olion llwyfannau tai yr Oes Efydd, gwaith pren Rhufeinig, a mynachdai ac adeiladau ffermydd Canoloesol. Mae'r ardal, felly, yn adnodd hanesyddol ac archeolegol eithriadol gyfoethog.[2]

Yma, yn ystod y 150 blynedd diwethaf, codwyd rheilffordd, dwy draffordd, gwaith dur enfawr, a gorsaf bŵer. Ond mae rhannau sylweddol o'r dirwedd wledig a nodweddion hanesyddol wedi eu cadw, gan gynnwys, mewn aml i le, y ffosydd sy'n rheoli'r dŵr rhwng y caeau, sef rhewynau. Ceir yma eglwysi canoloesol. Mae'r rhewynau'n cynnal planhigion dŵr prin ac amrywiaeth eang o anifeiliaid di-asgwrn-cefn, a cheir llawer o adar prin yn enwedig o fewn ardal 'Gwarchodfa Gwlypdiroedd Casnewydd'. Yn Collister Pill, ceir olion hen fforest wedi'i ffosileiddio.

Datblygu'r M4[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2016 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru cynlluniau a oedd yn cynnwys darluniau, asesiadau amgylcheddol ac adroddiadau ar gyfer y prosiect o greu coridor rhwng Caerdydd a Llundain, drwy ddatblygu rhan newydd o draffordd i'r de o Gasnewydd. Yna cynhaliwyd Ymchwiliad Cyhoeddus dros flwyddyn o hyd, ac a gwblhawyd yng ngwanwyn 2018.[3] Penderfyniad Llywodraeth Cymru oedd peidio â bwrw ymlaen â'r cynllun.

Yn Hydref 2020 cyhoeddodd Boris Johnson, Prif Weinidog y DU ei fwriad i fynd ymlaen i greu'r draffordd, er gwaethaf penderfyniad Llywodraeth Cymru. Roedd hyn yn dilyn, ychydig ddyddiau wedi i San Steffan ddadwneud unrhyw benderfyniad gan y dair llywodraeth ddatganoledig, pan basiwyd Mesur y Farchnad Fewnol. Gwelwyd hyn fel rhan o ymgais Lloegr i atal annibyniaeth i Gymru.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. orapweb.rcahms.gov.uk; Coflein. Adalwyd 6 Hydref 2020.
  2. Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru; adalwyd 6 Hydref 2020.
  3. Gwefan Llywodraeth Cymru; teitl: 'M4: y coridor o amgylch Casnewydd (trosolwg)'; adalwyd 6 Hydref 2020.
  4. golwg.360.cymru; teitl: 'Mudiad annibyniaeth yn gwrthwynebu M4 newydd'; adalwyd 6 Hydref 2020.