Ardaloedd Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ![]() |
Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AOHNE) yn ardaloedd sy'n cael eu dynodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru (cynt: Cyngor Cefn Gwlad Cymru) ar ran Llywodraeth Cymru. Ceir pump Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol:
Mae pedwar o'r ardaloedd yn llwyr yng Nghymru ond mae un, sef Llwybr Dyffryn Gwy yng Nghymru ac yn Lloegr.[1]
Maen nhw i'w cael hefyd yng Ngogledd Iwerddon (8) a Lloegr (33), ond yn yr Alban, gelwir nhw'n national scenic area (NSA). Mae ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cael eu hamddiffyn rhag datblygiadau tai, diwydiant ayb, tebyg i rai parciau cenedlaethol ond nad oes ganddynt bwerau cynllunio, fel sydd gan y Parciau Cenedlaethol. Maent hefyd yn wahanol i barciau cenedlaethol yn eu cyfleoedd mwy cyfyngedig ar gyfer hamdden awyr agored.[2]
Dynodwyd yr AHNE cyntaf yn y DU ym 1956 ym Mhenrhyn Gŵyr, De Cymru. Y mwyaf diweddar a gadarnhawyd yw'r rhan estynedig o AHNE Bryniau Clwyd, yn 2012, gan ffurfio AHNE Bryniau Clwydian a Dyfrdwy (neu Edeyrnion).
Enw | Delwedd | Arwynebedd (km sg) | Manylion |
---|---|---|---|
Arfordir Môn | ![]() |
221 | Dynodwyd Ynys Môn yn AHNE ym 1966, er mwyn amddiffyn apêl esthetig ac amrywiaeth tirwedd arfordirol a chynefinoedd yr ynys rhag datblygiad amhriodol. Mae'r AHNE yn cwmpasu'r rhan fwyaf o arfordir 125 milltir (201 km) Ynys Môn, yn ogystal ag ardaloedd mewndirol, megis Mynydd Caergybi a Mynydd Bodafon.[3][4][4] |
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrwdwy | 389 | Mae Bryniau Clwyd a Dyffryn Edeyrnion yn gyfres o fryniau a mynyddoedd yng ngogledd ddwyrain Cymru sy'n rhedeg o Llandegla yn y de i Brestatyn yn y gogledd, a'r pwynt uchaf yw'r Moel Famau. Fe'i dynodwyd yn AHNE ym 1985. Ymestynnwyd yr AHNE yn 2011 i gynnwys y bryniau o amgylch Llangollen, gan gynnwys yr Eglwyseg a Moel y Gamelin.[5] | |
Penrhyn Gŵyr | ![]() |
188 | Penrhyn ar arfordir y de-orllewin, ar ochr ogleddol Môr Hafren yn ne-orllewin sir hanesyddol Morgannwg yw Penrhyn Gŵyr. Dyma'r ardal gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei dynodi'n AHNE.[6] |
Penrhyn Llŷn | ![]() |
155 | Penrhyn yw Pen Llŷn sy'n ymestyn 30 milltir (48 km) i Fôr Iwerddon o'r gogledd-orllewin, i'r de-orllewin o Ynys Môn. Mae llawer o'r morlin a'r bryniau cyn-folcanig yn rhan o AHNE Pen Llŷn, gan gadarnhau'r penrhyn fel un o'r pwysicaf yn wyddonol yn y wlad.[7] |
Dyffryn Gwy | ![]() |
- | Mae AHNE Dyffryn Gwy, a ddynodwyd ym 1971, yn dirwedd warchodedig o bwys rhyngwladol sy'n pontio'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae'n un o'r ardaloedd tirwedd mwyaf dramatig yng Nghymru. Afon Gwy yw'r bumed afon hiraf yn y Deyrnas Unedig. Mae rhan uchaf yr afon yn mynd trwy Rhaeadr Gwy, Llanfair-ym-Muallt a'r Gelli Gandryll, ond mae'r ardal a ddynodwyd yn AHNE yn amgylchynu'r darn 58 milltir yn unig yn is i lawr yr afon, o ychydig i'r de o ddinas o Henffordd i Gas-gwent.[8] |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "An Introduction to Areas of Outstanding Natural Beauty". National Association for Areas of Outstanding Natural Beauty. 12 Tachwedd 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mehefin 2013. Cyrchwyd 13 April 2011.
- ↑ "Areas of outstanding natural beauty (AONBs): designation and management - GOV.UK". www.naturalengland.org.uk. Cyrchwyd 16 Chwefror 2018.
- ↑ "An Introduction to Areas of Outstanding Natural Beauty". National Association for Areas of Outstanding Natural Beauty. 12 Tachwedd 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mehefin 2013. Cyrchwyd 13 Ebrill 2011.
- ↑ 4.0 4.1 "The Anglesey Area of Outstanding Natural Beauty (AONB)". Isle of Anglesey County Council. 16 Rhagfyr 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mai 2011. Cyrchwyd 13 April 2011.
- ↑ "AONB Designation". Clwydian Range AONB. Cyrchwyd 13 Ebrill 2011.
- ↑ "Gower Area of Outstanding Natural Beauty" (PDF). City and County of Swansea. May 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 Mawrth 2009. Cyrchwyd 13 Ebrill 2011.
- ↑ "Llŷn AONB". Llŷn AONB. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 13 Ebrill 2011.
- ↑ "An Introduction to Areas of Outstanding Natural Beauty". National Association for Areas of Outstanding Natural Beauty. 12 Tachweddr 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mehefin 2013. Cyrchwyd 13 Ebrill 2011. Check date values in:
|date=
(help)