Parciau cenedlaethol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Parciau cenedlaethol Cymru
Parciau Cenedlaethol Cymru: 1. Eryri 2. Arfordir Sir Benfro 3. Bannau Brycheiniog.
Enghraifft o'r canlynolpartneriaeth
Dechrau/Sefydlu1951 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysParc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Cenedlaethol Eryri, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Darnau o dir sy'n cael eu gwarchod i'r genedl ac i'r dyfodol yw parciau cenedlaethol

Cymru, sy'n 20 y cant o dir Cymru.[1] Mae tri pharc;

Manylion cyfreithiol[golygu | golygu cod]

Mae ardaloedd gwledig gorau Cymru wedi'u neilltuo'n barciau cenedlaethol neu'n Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'r gyfraith wedi diogelu'r ardaloedd yma er mwyn gwarchod ac ehangu eu prydferthwch naturiol. Ceir tri pharc cenedlaethol yng Nghymru: Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri. Mae 2.9% o boblogaeth Cymru yn byw yma, ond maen nhw'n denu 22 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae gan y tri pharc ddau gyfrifoldeb cyfreithiol:

  • cadwraeth - gwarchod a gwella'r amgylchedd naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth diwylliannol
  • hyrwyddo'r defnydd, y dealltwriaeth a mwynhad y cyhoedd o'r parciau.

Wrth wneud hyn mae ganddynt hefyd gyfrifoldeb tuag at y gymuned leol sy'n byw o fewn y parc.

Partneriaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth fel 'Parciau Cenedlaethol Cymru (PCC)', sy'n hyrwyddo pwrpas a diddordebau y tri Pharc. Gwnant hyn drwy 'ddarparu ffyrdd i Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ddod o hyd i faterion sydd o ddiddordeb cyffredin a chytuno ar ddulliau o'u gweithredu.' Rhennir gwybodaeth a phrofiadau rhwng cydweithwyr, gwneuthurwyr polisïau a chymunedau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol ac ymwelwyr i'r ardaloedd hyn.

Aesu Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fel Parc Newydd[golygu | golygu cod]

Moel Arthur, Bryniau Clwyd

Mae awgrymiadau wedi bod i wneud ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn bedwerydd o Barciau Cenedlaethol Cymru. Cynigwyd hyn gan Blaid Llafur Cymru yn 2021.[2][3]

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cyfoeth Naturiol Cymru i asesu'r rhagolwg greu Parc cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru yn seiliedig ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Bydd hyn yn cael ei hystyried yn nhymor 2021-26 y Senedd. Dyma yw'r Parc Cenedlaethol cyntaf i gael ei ystyried yng Nghymru ers bron 70 mlynedd.[4]

Cynhelir ddigwyddiadau ymgysylltu ynglyn â photential creu'r parc newydd ym mis Hydref a mis Tachwedd 2023.[5]

Mi fydd cyfnodau ymgynghori cyhoeddus hefyd ym mis Hydref 2024 a 2025 ac mae'n bosib y bydd ffiniau y parc yn cael eu haddasu. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi clustnodi £700,000 y flwyddyn rhwng yn y cyfnod 2022-25 ar gyfer y parc newydd. Y gweinidog materion gwledig, Lesley Griffiths fydd yn gwneud y penderfyniad terfynnol ac mae'r llywodraeth yn bwriadau gallu gwneud hyn cyn Etholiad nesaf Senedd Cymru yn 2026.[6]

Mae'r ardal a gynigwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys yr AHNE i gyd yn pgystal a rhan o ogledd gogledd Powys, Llyn Efyrnwy a rhan o Wynedd sy'n ffinio a pharc Eryri.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. croeso.cymru; Archifwyd 2017-12-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 22 Tachwedd 2017.
  2. "Ymateb cymysg i'r syniad o greu parc cenedlaethol". BBC Cymru Fyw. 2021-04-30. Cyrchwyd 2023-09-13.
  3. "Parc Cenedlaethol arall i Gymru?". newyddion.s4c.cymru. 2023-09-13. Cyrchwyd 2023-09-13.
  4. "Prosiect Dynodi Parc Cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru". Clwydian Range and Dee Valley AONB. Cyrchwyd 2023-09-13.
  5. Mansfield, Mark (2023-09-12). "Public events for first look at new National Park plans announced". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-13.
  6. 6.0 6.1 "Parc Cenedlaethol newydd - pryd, ble a pham?". BBC Cymru Fyw. 2023-11-20. Cyrchwyd 2023-11-21.