Zip World

Oddi ar Wicipedia
Zip World, Chwarel Penrhyn, Bethesda, Bangor Gwynedd - panoramio (2)
Zip World
Math
busnes
Sefydlwyd1 Mawrth 2013
PencadlysBethesda
Gwefanhttps://www.zipworld.co.uk/ Edit this on Wikidata

Cwmni sydd yn cynnal sawl weiren wib mewn atyniadau twristaidd yng Nghymru yw Zip World. Mae un ym Methesda, Mlaenau Ffestiniog ac un ym Metws y Coed.

Cafodd maes chwarae Parc Eirias ei ail-enwi'n Stadiwm Zip World yn 2017.[1]

Zip World Velocity, Bethesda[golygu | golygu cod]

Zip World Velocity oedd yr atyniad cyntaf a greodd Zip World, ac agorodd i'r cyhoedd ym mis Mawrth 2013. Hon yw'r weiren sip hiraf yn Ewrop a'r gyflymaf yn y byd.[2]

Zip World, Blaenau Ffestiniog[golygu | golygu cod]

Mae Zip World Blaenau Ffestiniog yn cynnwys tri atyniad, sef Titan, Bounce Below a Caverns. Y weiren sip gyntaf yn Ewrop i bedwar person yw Titan. Maes trampolinau ar rwydiau tanddaearol yw Bounce Below. "Antur o dan y ddaear" yw disgrifiad Caverns.

Zip World, Coedwig Betws y Coed[golygu | golygu cod]

Chwe atyniad sydd yn Zip World, Coedwig Betws y Coed, sef Coaster (reid o gwmpas y goedwig), Plumet (tŵr sydd yn plymio), Skyride (siglen enfawr), Treetop nets (rhwydi yn uchel yn y coed), Tree hoppers (cwrs antur i blant) a Zip safari (gwifrau sy'n mynd o goeden i goeden).

Oriel Zip World, Chwarel Penrhyn[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Newid enw Parc Eirias i ‘Stadiwm Zip World’, Golwg360 (9 Awst 2017). Adalwyd ar 28 Hydref 2017.
  2. "Gwfan Zip World". Zip World. 1/12/17. Check date values in: |date= (help)