Blaenau Ffestiniog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Blaenau Ffestiniog
Blaenau Ffestiniog.jpg
Math tref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Cymru Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52°59'40"N, 3°56'15"W Edit this on Wikidata
Cod OS SH705455 Edit this on Wikidata
Cod post LL41 Edit this on Wikidata
Cod deialu 01766 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Mae Blaenau Ffestiniog yn dref yng Ngwynedd sydd gerllaw Parc Cenedlaethol Eryri; Cyfeirnod OS: SH 70078 41951. Mae ganddi boblogaeth o 4,830 (Cyfrifiad 2001). Mae Caerdydd 175.6 km i ffwrdd o Flaenau Ffestiniog ac mae Llundain yn 308.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 29 km i ffwrdd.

Roedd y dref yn ganolfan bwysig iawn yn y diwydiant llechi.

Mae'r tir o gwmpas y dref yn rhan o'r parc cenedlaethol, ond dyw'r dref ei hunan ddim - fe'i heithrwyd oherwydd yr olion diwydiannol sy'n amlwg o amgylch y dref. Dywedir ei bod yn bwrw llawer o law yno. Lleolir y Moelwynion yn agos i'r dref, uwchben pentref Tanygrisiau.

Mae'r cylch yn cael ei wasanaethu gan Bapur Bro o'r enw'r Llafar Bro sy'n cael ei gyhoeddi unwaith y mis.

Yn hanesyddol, roedd yn rhan o Sir Feirionydd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Traphont yn y Blaenau tua 1975.

Tyfodd Blaenau yn gyflym o gwmpas y chwareli llechi yn ystod y 19g wedi i ŵr o'r enw Methusalem Jones ddarganfod llechfaen yn yr ardal yn yr 1760au. Agorwyd rheilffordd fach (Rheilffordd Ffestiniog heddiw) i gludo llechi o Blaenau i Borthmadog, oedd yn borthladd bach prysur yn y 19eg ganrif. Yn anterth y diwydiant llechi ar droad yr 20g, cododd poblogaeth y dref i 11,434 yn ôl cyfrifiad 1901, gan ei gwneud yn ail dref fwyaf gogledd Cymru ar ôl Wrecsam ar y pryd.[1]

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Ffestiniog ym 1898.

Cerddoriaeth Cyfoes Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae rhestr faith o fandiau chwyldroadol Cymraeg yn dod o Flaenau Ffestiniog, yn eu plith: Anweledig, Llwybr Llaethog, Mim Twm Llai, Frizbee, dau boi o Blaena, Llan Clan a Gwibdaith Hen Fran er enghraifft.

Côr Meibion y Brythoniaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Gôr Meibion y Brythoniaid
Searchtool.svg
Prif erthygl: Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Gôr Meibion y Moelwyn

Trafnidiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Saif Blaenau ar un pen Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy'n ei chysylltu â Chyffordd Llandudno a Llandudno trwy dirlun prydfrerth Dyffryn Lledr a Dyffryn Conwy. Ceir lein arall, ar gyfer twristiaid yn bennaf heddiw ond yn y gorffennol yn dwyn llechi i'r cei ym Mhorthmadog, sef Reilffordd Ffestiniog. Mae'r A470 yn mynd trwy'r dref cyn dringo Bwlch y Gorddinan. Mae gwasanaethau bws cyson 1B i Borthmadog, sy'n cysylltu â'r gwasanaeth i Fangor ac mae gwasanaethau bws eraill i Landudno a Dolgellau. Mae Gwasanaeth bws lleol hefyd sy'n cysylltu Tanygrisiau a Rhiwbryfdir gyda chanol y dref.

Ysgolion[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r dref yn cael ei gwasanaethu gan dair ysgol gynradd, sef: Ysgol Manod, Ysgol Maenofferen ac Ysgol Tanygrisiau. Mae'r ysgolion hyn yn bwydo'r ysgol uwchradd leol, Ysgol y Moelwyn.

Golygfa ar Flaenau, yn edrych i lawr o Foelwyn Bach

Clybiau a Chymdeithasau[golygu | golygu cod y dudalen]

Seiclwr mynydd yn ymarfer ar un o draciau Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog

Cyflogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Er fod y diwydiant chwareli llechi yn parhau i gyflogi nifer o bobl yn y dref, mae'r diwydiant hwn wedi cael ei ddisodli fel prif gyflogwyr gan ffatri Blaenau Plastics sydd â staff o tua 300. Rhai o gyflogwyr mawr eraill y dref yw ffatri Metcalfe, sy'n creu offer arlwyo, a phwerdy trydan-dŵr Tanygrisiau. Mae dau gwmni cludiant ffyrdd mawr wedi eu lleoli yn yr ardal hefyd, sef 'Roberts Ffestiniog' o Lan Ffestiniog a 'E. Hughes' o'r Manod.

Gwahanol Ardaloedd o'r dref[golygu | golygu cod y dudalen]

Tafarnau'r Dref[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • amryw awduron, Chwareli a Chwarelwyr (Caernarfon, 1974)
  • Gwyn Thomas, Yn Blentyn yn y Blaenau (1981). Darlith hunangofiannol.
  • Gwyn Thomas, Blaenau Ffestiniog (2007 Gomer). Casgliad o gerddi a lluniau.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Gogledd Orllewin y BBC


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato