Cludiant Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cludiant yng Nghymru)

Nid oes system gludiant lwyr integredig gan Gymru; mae teithio i mewn i'r wlad neu tu allan ohoni yn haws na symud y tu mewn iddi.[1] Ers talwm, lleolir y prif lwybrau cludiant rhwng y dwyrain a'r gorllewin ar hyd arfordiroedd y gogledd a'r de, ac ar draws y canolbarth yn y fan mae Dyffryn Hafren yn cysylltu gororau Cymru â Chanolbarth Lloegr. Datblygodd is-lwybrau o'r gogledd i'r de, ar hyd arfordir y gorllewin a'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Hyd yn oed ers moderneiddio'r ffyrdd, parheir y broblem hanesyddol o sefydlu llwybrau i gludo dros yr ucheldiroedd. Rhwydwaith eang o ffyrdd sydd gan Gymru, yn enwedig ar hyd arfordiroedd y gogledd a'r de, ond yr unig draffordd sy'n treiddio'r wlad yw'r M4 sy'n gysylltu dinasoedd y de â Bryste ac yn y bôn Llundain.

Rheilffyrdd[golygu | golygu cod]

Map o reilffyrdd Cymru yn 2021

Cafodd nifer o linellau'r rheilffyrdd eu cae gan Reilffyrdd Prydain yn y 1950au a'r 1960au. Mae'r rhwydwaith rheilffyrdd presennol yn debyg i batrwm y ffyrdd: lleolir y prif lwybrau ar hyd arfordiroedd y gogledd a'r de. Mae hefyd nifer o reilffyrdd cledrau cul yng Nghymru sy'n gweithredu'n bennaf yn yr haf ar gyfer twristiaid.

Porthladdoedd[golygu | golygu cod]

Prif borthladd cefnforol y wlad yw Aberdaugleddau, sy'n un o brif ganolfannau Ewrop ar gyfer mewnforio a choethi olew. Porthladdoedd Caergybi, Abergwaun ac Abertawe sy'n cysylltu Cymru ac Iwerddon drwy longau fferi ar draws Môr Iwerddon. Mae nifer o borthladdoedd y de, oedd yn arfer allforio glo, heddiw'n mewnforio mwyn haearn, petroliwm, a nwyddau cyffredinol. Er ei chamlesi hanesyddol, nid oes dyfrffyrdd mewndirol masnachol yng Nghymru fodern.[1]

Maesydd awyr[golygu | golygu cod]

Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yw maes awyr mwyaf y wlad, ac yn danfon a derbyn teithwyr ar ehediadau mewnwladol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac ehediadau rhyngwladol i nifer o wledydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Wales: Transportation. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Awst 2015.