Betws-y-Coed

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Betws y Coed)
Jump to navigation Jump to search
Betws-y-Coed
General view, Bettws-y-Coed (i.e. Betws), Wales-LCCN2001703431.jpg
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.092°N 3.792°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000106 Edit this on Wikidata
Cod OSSH795565 Edit this on Wikidata
Cod postLL24 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auRobin Millar (Ceidwadwyr)
Am enghreifftiau eraill o enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).

Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Betws-y-Coed[1] neu Betws-y-coed.[2] Fe'i lleolir ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Gerllaw, mae'r Bont Waterloo haearn yn cario'r A5 dros Afon Conwy. Mae Afon Llugwy, sy'n rhedeg trwy'r pentref, yn ymuno ag Afon Conwy gerllaw. Mae Caerdydd 184.1 km i ffwrdd o Betws-y-Coed ac mae Llundain yn 306.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 26.6 km i ffwrdd.

Yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o'r hen enwau ar y pentref oedd Betws Wyrion Iddon.[3] Fe'i gelwid hefyd Llanfihangel y Betws yn ôl y Parochiale Wallicanum ("Plwyfi Cymru") a gyhoeddwyd yn 1721.[3] Ystyr 'betws' yw "capel anwes, tŷ gweddi neu eglwys fach", ac mae'n air Cymraeg Canol sy'n fenthyciad o'r gair Hen Saesneg bede-hūs (bead-house). Ystyr yr enw 'Betws-y-Coed' felly yw "Y Tŷ Gweddi yn y Coed", er bod bead-house yn gallu golygu "elusendy" hefyd yn Saesneg.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r pentref presennol yn wasgaredig ar ddwy lan Afon Llugwy lle egyr y dyffryn allan wrth ymuno â dolydd isel gwastad Dyffryn Conwy. Mae'r ardal yn goediog iawn ond erbyn heddiw mae'r hen goedwigoedd cysefin wedi ildio lle i goedwigoedd pinwydd trwchus y Comisiwn Coedwigaeth sy'n gorchuddio'r bryniau i'r gogledd ac i'r de o Fetws-y-Coed. Tu draw i Goedwig Gartheryr, i'r de, mae Llyn Elsi yn gorwedd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Hyd at y 16g roedd Betws yn rhan o blwyf Llanrhychwyn a honno yn ei thro yn rhan o gwmwd Nant Conwy yn nghantref Arllechwedd. Ymddengys fod eglwys wedi sefyll ym Metws ers Oes y Seintiau. Mae cwrs ffordd Rufeinig, a elwir Sarn Helen fel cynifer o'i thebyg, yn pasio'n agos i'r pentref ar ei ffordd o gaer Caerhun (Canovium) i Ddyfryn Lledr ac mae cangen ohoni'n rhedeg i fyny dyffryn Afon Llugwy i Gapel Curig. Roedd Rhys Gethin, un o gapteiniad pennaf Owain Glyndŵr, yn byw yn 'Hendre Rhys Gethin' ym mhlwyf Betws-y-Coed. Roedd ei frawd Hywel Coetmor, oedd hefyd yn wrthryfelwr a noddwr beirdd, yn byw yng Nghastell Cefel yng Nghoedmor gerllaw, yn ôl Syr John Wynn o Wydir. Ceir beddfaen eu taid Gruffudd ap Dafydd Goch yn yr eglwys (gweler isod).

Rhywbryd yn y 15g codwyd Pont-y-Pair dros Afon Llugwy (gweler isod). Tyfodd y pentref yn gyflym yn ail hanner y 19g. Daeth yn fangre boblogaidd iawn gan arlunwyr o dros Glawdd Offa ac am gyfnod roeddynt yn ffurfio cylch artistaidd tebyg i'r un a gafwyd yn St Ives yng Nghernyw. Mae nifer o dai yn y pentref yn dyddio o'r cyfnod hwnnw a blynyddoedd cynnar yr 20g.

Yr hen eglwys[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Eglwys Fihangel Sant, Betws-y-Coed

Mae Eglwys Fihangel Sant, neu Llanfihangel, yn hen iawn. Mae'n sefyll rhwng yr orsaf rheiffordd ac Afon Conwy ar ochr ddwyreiniol y pentref. Mae'r rhannau hynaf o'r adeilad presennol yn dyddio o'r 14g neu'n gynnar yn y 15g. Dichon ei bod wedi'i chysegru i sant lleol ar un adeg cyn cael ei ail-gysegru i Sant Fihangel, efallai yng nghyfnod y Normaniaid. Mae bedyddfaen yr eglwys yn perthyn i'r 12g, yn ôl pob tebyg.

Y tu ôl i'r allor ceir beddfaen cerfiedig Gruffudd fab Dafydd Goch, un o wyrion Dafydd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Mae'r cerflun yn dangos Gruffudd yn ei arfwisg lawn ac yn dwyn yr arysgrif,

HIC JACET GRVFYD AP DAVYD GOCH : AGNVS DEI MISERE MEI
(Yma y gorwedd Gruffudd ap Dafydd Goch: Boed i Oen Duw fod yn drugarhaol wrthyf)[3]

Tyfa tair ywen hynafol ym mynwent yr eglwys. Mae'r hen borth yn dyddio o 1750. Yn nyfroedd Afon Conwy ger yr eglwys gellir gweld hen gerrig camu a ddefnyddid ar un adeg i groesi'r afon. Yn ymyl yr eglwys yn ogystal ceir pont grog haearn a phren ar gyfer cerddwyr.

Yr eglwys newydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Eglwys y Santes Fair, Betws-y-Coed

Saif Eglwys y Santes Fair yn Neoniaeth Arllechwedd, Esgobaeth Bangor. Eglwys Anglicanaidd ydyw (h.y. yr Eglwys yng Nghymru) ac mae ei drysau ar agor yn wythnosol.[4] Cofrestrwyd yr adeilad gan Cadw fel adeilad rhestredig Gradd II*.[5] Oherwydd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, roedd Eglwys Mihangel Sant yn rhy fach a phenderfynwyd codi eglwys newydd, Eglwys y Santes Fair, rhwng 1870 a 1873, yng nghanol y pentref, wrth ochr y brif ffordd. Fe'i cysegrwyd yng Ngorffennaf 1873, a cheir lle i 150 person.[6] ar gost o £5,000 (sy'n gyfwerth â £400,000 heddiw). Cwbwlhawyd y tŵr yn 1907.[5]

Pont-y-Pair[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Pont-y-Pair

Rhywbryd yn y 15g, efallai, codwyd pont gerrig Pont-y-Pair dros Afon Llugwy (fe'i priodolir i Inigo Jones weithiau, ond mae hi'n hŷn na hynny). Mae ganddi bump bwa â'r un yn ei chanol yn rhychwantu'r geunant ddofn islaw. Mae Pont-y-Pair yn denu nifer o bobl yn yr haf ac mae rhai pobl yn neidio i'r afon o'r bont neu o'r creigiau yn ei hymyl.

Y pentref heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Ers canrif a mwy mae Betws wedi bod yn boblogaidd gan ymwelwyr ac yn ganolfan hwylus ar gyfer ymweld ag Eryri. Mae nifer o westai yn y pentref a cheir sawl siop offer dringo a cherdded yn y stryd fawr. Mae'r rhan fwyaf o'r tai wedi'u hadeiladu â cherrig lleol. Mae gan y pentref boblogaeth o 1,187 (Cyfrifiad 2001).

Ceir amgueddfa a chanolfan ymwelwyr yn yr hen orsaf.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Betws-y-Coed (pob oed) (564)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Betws-y-Coed) (252)
  
46.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Betws-y-Coed) (320)
  
56.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Betws-y-Coed) (76)
  
31.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Atyniadau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Hanner ffordd rhwng Betws a Chapel Curig mae'r Tŷ Hyll. Cyn cyraedd y tŷ, rhyw 2 filltir o'r pentref, mae'r Rhaeadr Ewynnol ("Swallow Falls" yn Saesneg).

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  2. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  3. 3.0 3.1 3.2 Harold Hughes a H. L. North, The Old Chuches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, 1984).
  4. St Mary, Betws-y-coed, Esgobaeth Bangor, http://www.churchinwales.org.uk/bangor/diocese/parish_details/arllechwedd/stmarybetwsycoed.html, adalwyd 9 Mehefin 2011
  5. 5.0 5.1 St Mary's Church, Betws-y-Coed, Cadw, http://jura.rcahms.gov.uk/cadw/cadw_eng.php?id=3640, adalwyd 9 Mehefin 2011
  6. Brandwood et al. 2012, tt. 101, 226.
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.