Gruffudd ap Dafydd Goch
Gruffudd ap Dafydd Goch | |
---|---|
Ganwyd | 14 g ![]() Gwynedd ![]() |
Man preswyl | Nant Conwy ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Blodeuodd | 1370 ![]() |
Tad | Dafydd Goch ![]() |
Mam | Angharad ferch Heilin ap Tudur ab Endyfed Fychan ![]() |
Plant | Efa ferch Gruffudd ap Dafydd Gôch ap Dafydd, Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Gôch ![]() |
Uchelwr Cymreig oedd Gruffudd ap Dafydd Goch (bl. ail hanner y 14g), a oedd yn un o wyrion y Tywysog Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd Tywysog Cymru, ac felly'n perthyn i Linach Aberffraw. Roedd yn fab i Ddafydd Goch, mab Dafydd ap Gruffudd. Trigai yng nghwmwd Nant Conwy (Sir Conwy). Ceir ei feddfaen yn hen eglwys plwyf Betws-y-Coed.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Cymharol ychydig a wyddom amdano. Trigai ym mhlasdy Y Fedw Deg, Nant Conwy. Roedd yn arweinydd rheithgor Cwmwd Nant Conwy yn 1352.[1]
Ef oedd tenant Cwmllannerch. Roedd yn un o etifeddion Gwely Cynwrig ab Iddon, sef tiroedd disgynyddion Cynrwig ab Iddon (hen enw Betws-y-Coed oedd 'Betws Wyrion Iddon'). Daliai dir yn Llanrwst, Penmachno a Chwmllannerch yn Nant Conwy ac yng nghwmwd Talybolion ym Môn.[1]
Beddfaen[golygu | golygu cod y dudalen]
Y tu ôl i'r allor yn hen Eglwys Betws-y-Coed, ceir beddfaen cerfiedig Gruffudd ap Dafydd Goch. Mae'r cerflun yn dangos Gruffudd yn ei arfwisg lawn ac yn dwyn yr arysgrif hon:
- HIC JACET GRVFYD AP DAVYD GOCH : AGNVS DEI MISERE ME
- (Yma y gorwedd Gruffudd ap Dafydd Goch: Boed i Oen Duw fod yn drugarhaol wrthyf)[2]
Disgynyddion[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd disgynyddion Gruffudd yn cynnwys Hywel Coetmor, uchelwr o Nant Conwy a ymladdodd ar ochr y Tywysog Owain Glyndŵr, a'i frawd yntau Rhys Gethin, un o gapteiniaid mawr Glyn Dŵr yn y rhyfel dros annibyniaeth ar ddechrau'r 15g.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 Syr John Wynn, History of the Gwydir Family (Gwasg Gomer, 1990). Tud. 109-110.
- ↑ Harold Hughes a H. L. North, The Old Chuches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, 1984).
- ↑ Syr John Wynn, History of the Gwydir Family (Gwasg Gomer, 1990). Tud. 109.