Pont Waterloo
Gwedd
| Math | pont ffordd, pont fwa |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Brwydr Waterloo |
| Agoriad swyddogol | 1816 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Betws-y-coed |
| Sir | Betws-y-coed |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 13.1 metr |
| Cyfesurynnau | 53.0852°N 3.7953°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
- Am y bont yn Llundain o'r un enw gweler Pont Waterloo, Llundain.
Pont haearn hynafol ar Afon Conwy ger Betws-y-Coed, Sir Conwy, yw Pont Waterloo.
Lleolir y bont rhyw hanner milltir i'r de-ddwyrain o'r pentref. Fe'i codwyd gan y peiriannydd sifil enwog Thomas Telford. Mae arysgrifen ar fwa'r bont yn cofnodi iddi gael eu hadeiladu yn yr un flwyddyn â Brwydr Waterloo: ond tra bod y bont wedi ei chynllunio a'r rhannau haearn wedi eu hadeiladu yn 1815, ni chwblhawyd codi'r bont yn y flwyddyn honno. Cafodd ei godi i gludo'r hen Lôn Caergybi (yr A5 bellach). Mae Pont Waterloo wedi ei gwneud yn gyfangwbl o haearn (ac eithrio'r ddau fastion carreg sy'n ei chynnal ar y ddwy lan), y seithfed bont yn y byd i gael ei chreu felly.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Pont-y-Pair, Betws-y-Coed
- Pont Bangor-is-y-Coed
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Quartermaine et al (2003) Thomas Telford's Holyhead Road: The A5 in North Wales, Council for British Archaeology ISBN 1-902771-34-6
