Pont Bangor-is-y-Coed
| Math | pont ffordd, pont |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Sesswick |
| Sir | Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 13 metr |
| Cyfesurynnau | 53.0028°N 2.91365°W, 53.00278°N 2.913631°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | FL017 |
Pont ganoloesol ar gyrion Bangor-is-y-coed ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yw Pont Bangor-is-y-coed. Credir iddi gael ei chodi ar ddiwedd y 15g neu ar ddechrau'r 16g. Cyfeirnod OS: SJ388454.
Mae'n bont bump bwa sy'n rhychwantu Afon Dyfrdwy. Mae ei chynllun yn wreiddiol iawn. Ceir parapet o flociau tywodfaen anferth arni gyda mannau cysgodi i gerddwyr uwchben y bwaoedd gan fod y ffordd drosti mor gul. Cafodd ei hadnewyddu yn ofalus, gan barchu'r cynllun gwreiddiol, yn 1993.
Cofnodir iddi gael ei hadgyweirio yn 1663 (mae'r garreg yn ochr y bont sy'n nodi hynny yn annarllenadwy bellach). Yn ôl un traddodiad cafodd y gwaith hwnnw ei wneud gan y pensaer enwog Inigo Jones (dywedir mewn rhai ffynonellau mai Inigo Jones a gododd y bont ei hun, ond ni all hynny fod yn wir am fod y gwaith adeiladu yn ganoloesol).
Yn 1876 cofnodwyd gweddillion sylfeni carreg yng ngwely'r afon; unig weddillion pont gynharach ar yr un safle efallai.
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- Helen Burnham, A Guide to Ancient and Historic Wales: Clwyd and Powys (Llundain: HMSO, 1995)
